Genedigaethau, marwolaethau, phriodasau a partneriaeth sifil
Mae Swyddfa Gofrestru Abertawe'n ymdrin â chofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil yn ardal Abertawe.
Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth cyfeillgar a chroesawgar os ydych yn cofrestru genedigaeth neu farwolaeth neu'n cymryd rhan mewn seremoni sifil, dathlu neu ddinasyddiaeth.
Priodasau a phartneriaethau sifil
Mae gan Abertawe'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth sifil. O olygfeydd godidog dros Fae Abertawe i harddwch eithriadol Penrhyn Gŵyr, rydych yn siŵr o ddod o hyd i'ch lleoliad delfrydol.
Copi o dystysgrifau geni, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth
Gallwch cael tysytysgrifau genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu partneriaethau sifil a gafwyd yn Abertawe'n unig.
Ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cofrestru
Gellir talu ffioedd seremonïau ag arian neu gardiau debyd neu gredyd yn y Swyddfa Gofrestru neu â cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn.
Cofrestru genedigaeth
Dylech gofrestru genedigaeth o fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad yr enedigaeth yn y rhanbarth y digwyddodd.
Cofrestru marwolaeth
Dylech gofrestru marwolaeth o fewn 5 niwrnod o ddyddiad y farwolaeth yn y rhanbarth y digwyddodd.
Seremonïau Dinasyddiaeth
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd 18 oed neu'n hŷn, a dderbynnir ar gyfer dinasyddio fel Dinasyddion Prydeinig, gymryd rhan mewn Seremoni Ddinasyddiaeth.
Adnewyddu addunedau
Seremoni yw hon ar gyfer parau priod sydd am adnewyddu'r addunedau a wnaed i'w gilydd ar eu diwrnod priodas. Gallai hyn fod yn ddathliad o ben-blwydd arbennig neu i ailddatgan eu hymrwymiad i'w gilydd.
Seremoni enwi
Mae'r Diwrnod Enwi'n dathlu genedigaeth baban newydd neu ffordd arbennig o groesawu plentyn neu blant i deulu newydd. Mae'n gyfle i rieni wneud addewid cyhoeddus o gariad ac ymrwymiad i'r plentyn.
Claddedigaethau ac Amlosgiadau
Rydym yn gyfrifol am saith mynwent yn Abertawe a'r amlosgfa yn Nhreforys.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 05 Gorffenaf 2024