Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cofrestru marwolaeth

Dylech gofrestru marwolaeth o fewn 5 niwrnod o ddyddiad y farwolaeth yn y rhanbarth y digwyddodd.

Sut rydw i'n cofrestru marwolaeth?

Os oes angen i chi gofrestru marwolaeth neu marw-enedigaeth, bydd yr ysbyty, meddygfa neu'r Swyddfa Crwner yn danfon y gwaith papur angenrheidiol i'r Swyddfa Gofrestru. Does dim angen i chi gasglu gwaith papur wrthyn nhw. Byddan nhw hefyd yn darparu rhif cyswllt y person fydd yn cofrestru. Sicrhewch fod gan yr ysbyty neu'r feddygfa'r rhif(au) ffôn mwyaf addas.

Bydd cofrestrydd yn edrych dros y gwaith papur i sicrhau fod y cofrestriad yn gallu mynd yn ei flaen ac yn cysylltu â'r teulu neu'r person fydd yn cofrestru i drefnu apwyntiad.

Pwy sy'n gallu cofrestru marwolaeth?

Mae pobl sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i gofrestru marwolaeth yn cynnwys:

  • perthynas.
  • person a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth.
  • deiliad yr eiddo lle bu'r farwolaeth petai ef/hi'n gwybod amdani.
  • y person sy'n gyfrifol am drefnu'r angladd (nid yw hyn yn cynnwys y trefnwr angladdau).

Pa wybodaeth y bydd ei hangen ar y cofrestrydd a pha ddogfennau y dylwn ddod â hwy i'r apwyntiad?

Bydd Cofrestrydd yn siarad â chi'n breifat yn y Swyddfa Gofrestru a bydd yn gofyn i chi am y canlynol:

  • dyddiad a lleoliad y farwolaeth.
  • enw llawn a chyfenw'r person sydd wedi marw (ac enw cyn priodi os oedd y person sydd wedi marw'n fenyw briod/partner sifil).
  • dyddiad a lleoliad y farwolaeth.
  • swydd y person sydd wedi marw ac, os oedd y person sydd wedi marw'n briod neu mewn partneriaeth sifil, enw llawn a swydd ei briod neu ei bartner sifil.
  • ei gyfeiriad arferol.
  • dyddiad geni'r priod neu'r partner sifil sydd dal yn fyw.
  • manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus e.e. gwasanaeth sifil, athro/athrawes neu'r lluoedd arfog.

Mae'n hanfodol eich bod yn dod â Thystysgrif Feddygol Achos y Farwolaeth y mae'r ysbyty neu'r meddyg wedi'i rhoi i chi. Heb hon, ni allwn gofrestru'r farwolaeth. Sylwer bod y weithdrefn yn wahanol os cafwyd post mortem.

Byddai'n ddefnyddiol i'r Cofrestrydd weld tystysgrif geni a thystysgrif briodas/partneriaeth sifil (os yw'n berthnasol) y person sydd wedi marw. Dewch â Cherdyn Meddygol GIG y person sydd wedi marw os gallwch ddod o hyd iddo'n hwylus.

Unwaith y byddwn wedi cwblhau'r cofrestru, bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi wirio bod yr holl fanylion yn gywir cyn llofnodi'r gofrestr. Dylech wirio'r wybodaeth yn ofalus cyn ei llofnodi oherwydd bydd rhaid cywiro unrhyw gamgymeriadau y deuir o hyd iddynt ar ôl y broses gofrestru yn ôl gweithdrefn gywiro ffurfiol.

A yw'r weithdrefn yn wahanol os yw'r crwner yn rhan o'r broses?

Sylwer y bydd adegau pan fydd angen i'r meddyg neu'r cofrestrydd gysylltu â'r crwner. Ar adegau o'r fath, efallai y bydd y cyfnod cofrestru'n hwy. Os bydd post mortem neu gwest, bydd y crwner yn rhoi gwybod i chi am y broses. Ffoniwch ni ar 01792 637444 am fwy o wybodaeth.

Beth yw Dweud Wrthym Unwaith?

Dweud wrthym unwaith (Yn agor ffenestr newydd) yw gwasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar adeg y cofrestru, bydd y Cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi a gellir ei ddefnyddio i hysbysu adrannau amrywiol y llywodraeth a'r awdurdod lleol am y farwolaeth e.e. Y DVLA, y Swyddfa Basbort, AGPh. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi yn eich apwyntiad.

Close Dewis iaith