Grwpiau cymunedol i chwarae'r brif ran mewn gorymdaith y Nadolig ysblennydd
Bydd gorymdaith y Nadolig am ddim Abertawe eleni yn cynnwys mwy na 40 o grwpiau cymunedol lleol.
![Fforestfach Scouts](/image/14942/FforestfachScouts/standard.jpg?m=1699279147897)
![Fforestfach Scouts](/image/14942/FforestfachScouts/gi-responsive__100.jpg?m=1699279147897)
Maent yn cynnwys grwpiau celfyddydau perfformio fel Celfyddydau Theatr Mellin, Cwmni Theatr The Rising Stars ac Ysgol Dawnsio Gwyddelig Bernadette Jones.
Mae'r clybiau chwaraeon yn cynnwys Clwb Pêl-fasged Storm Abertawe a Chlwb Rygbi Waunarlwydd.
Bydd ystod amrywiol o grwpiau lleol yn ymuno â nhw i nodi'n swyddogol ddechrau tymor y Nadolig yn y ddinas. Maent yn cynnwys Menter Chwarae Plant Bôn-y-maen, cangen Abertawe o'r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol, Grŵp Sgowtiaid Fforest-fach a BMHS - Cymorth Iechyd Meddwl BAME.
Bydd y grwpiau hyn yn sicrhau bod cannoedd o breswylwyr lleol yn cymryd rhan yn yr orymdaith. Mae'r gwahoddiad i gymryd rhan ar gau ar gyfer eleni.
Mae gorymdaith y Nadolig yn uchafbwynt yn rhaglen ddigwyddiadau flynyddol Cyngor Abertawe.
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rwy'n falch iawn bod cynifer o grwpiau cymunedol lleol wedi ymateb yn gadarnhaol i'n gwahoddiad i gymryd rhan.
"Bydd yr orymdaith yn llawn goleuadau, cerddoriaeth a dawnsio a bydd yn cynnwys fflotiau, perfformwyr proffesiynol, grwpiau cymunedol a chymeriadau o straeon tylwyth teg a ffilmiau."
Bydd yr orymdaith yn dechrau o 5pm ar 19 Tachwedd. Bydd yn dechrau ar Victoria Road ac yn teithio ar hyd Princess Way, Caer Street, Castle Street, Y Stryd Fawr, Alexandra Road, Orchard Street a Ffordd y Brenin.
Bydd rhai ffyrdd ar gau dros dro yng nghanol y ddinas. Bydd manylion llawn i ddilyn.
Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com.
Llun: Aelodau o Grŵp Sgowtiaid Fforest-fach