Cyfri'r dyddiau tan gynhadledd 'It's Your Swansea 2024'
Mae dros 1,000 o bobl eisoes wedi cofrestru i fynd i gynhadledd ac arddangosfa 'It's Your Swansea 2024'.


Mae'r digwyddiad am ddim sydd bellach yn ei bumed flwyddyn yn cael ei gynnal yn Arena Abertawe ddydd Iau 7 Mawrth.
Mae'r gynhadledd yn dod â phobl, busnesau a sefydliadau ynghyd i rwydweithio, clywed gan arweinwyr y ddinas a chymryd rhan mewn sgyrsiau i helpu i lunio dyfodol Abertawe.
Mae rhaglen eleni'n cynnwys trafodaethau panel, cyhoeddiad pwysig gan elusen leol, rhwydweithio yn y neuadd arddangos a marchnad gwneuthurwyr.
Eleni, thema'r gynhadledd a gyflwynir gan 4 The Region mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yw Abertawe: Dinas Cyfleoedd.
Ceir pum parth arddangos yn y gynhadledd - creadigol a digidol, datblygiad a buddsoddiad, ynni a'r amgylchedd, Abertawe fel cyrchfan a pharth rhanbarthol.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae rhaglen £1bn yn mynd rhagddo yn Abertawe i greu mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen i bobl leol a busnesau lleol.
"Mae prosiectau fel yr arena a distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd Penderyn yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa bellach wedi'u cwblhau, ac eleni bydd datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei orffen, caiff cynlluniau Theatr y Palace a Neuadd Albert eu hagor, a bydd prosiect gwella mawr yn dechrau yng Ngerddi Sgwâr y Castell.
"Mae cymaint mwy i ddod hefyd wrth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat barhau â'u gwaith i drawsnewid Abertawe yn un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, mwynhau, astudio ac ymweld â hi.
"Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle gwych i bobl gael gwybod mwy am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a darganfod llawer o'r busnesau gwych, llawn ysbrydoliaeth yn Abertawe sy'n gwneud cymaint ar gyfer ein heconomi a chyflogaeth.
"Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, a bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at yr holl waith gwych sy'n digwydd er budd pobl leol wrth adael gwaddol hirdymor cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Meddai Zoe Antrobus, rheolwr gyfarwyddwr 4theRegion, "Bydd sgyrsiau a digwyddiadau yn ystod y dydd yn amlygu'r cyfoeth o gyfleoedd sy'n bodoli'n lleol - swyddi gyda chyflogwyr lleol, cyllid i fusnesau a sefydliadau, cyfleoedd twf busnes, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a mwy. Mae llawer i fod yn falch ohono a llawer i'w ddarganfod."
Gan ei bod hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched y diwrnod wedyn a chyda Sul y Mamau ar y gorwel, mae ysbrydoli menywod yn flaenllaw yng nghynhadledd eleni.
Bydd y Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd Cyngor Abertawe, yn siarad yn y sesiwn agoriadol, a thrwy gydol y dydd bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan bobl fel yr hyfforddwr busnes, proffesiynol a phersonol, Joy Ogeh-Hutfield, Kim Mamhende - Pennaeth Staff yr elusen 'Centre for African Entrepreneurship' - a Fatima Lopez, llywydd undeb y myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr.
Eleni, noddir y gynhadledd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coastal Housing, y cyfrifwyr Bevan & Buckland ac Edmundson Electrical.
Ewch yma i gofrestru'ch lle: www.4theregion.org.uk/swansea-conference-2024