Toglo gwelededd dewislen symudol

Technoleg newydd i sicrhau bod canol y ddinas wedi'i gysylltu'n well

Disgwylir i dechnoleg fach newydd gael ei chyflwyno i helpu canol dinas Abertawe i fod yn fwy clyfar ac wedi'i gysylltu'n well.

City centre from above (August 2022)

City centre from above (August 2022)

Caiff y dechnoleg ei rhoi ar waith ar nifer o bolion lampau a rhai celfi stryd eraill yng nghanol y ddinas a fydd o fudd i fusnesau, siopwyr ac ymwelwyr.

Bydd yn ceisio gwella signal i ffonau symudol a chyflymder data yng nghanol y ddinas pan fydd yn arbennig o brysur yno.

Gallai hefyd gefnogi cyflwyno rhagor o finiau clyfar er mwyn lleihau'r perygl o sbwriel, yn ogystal â synwyryddion i fonitro llygredd aer.

Gan gefnogi uchelgais Rhaglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddenu hwb economaidd rhanbarthol o £318 miliwn dros y blynyddoedd nesaf, mae cyflwyno'r dechnoleg yn gydweithrediad rhwng gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, cyflenwyr isadeiledd a Chyngor Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae pawb wedi profi adegau pan rydym mewn rhywle prysur ac na allwn gael digon o signal neu gyflymder lawrlwytho digon cyflym ar gyfer ein ffôn symudol.

"Mae'r cynllun hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem honno yng nghanol dinas Abertawe, wrth hefyd gefnogi ein huchelgais i fod yn ddinas fwy clyfar dros y blynyddoedd nesaf lle caiff technoleg ei defnyddio i wneud penderfyniadau mwy effeithlon er budd ein preswylwyr a'n busnesau.

"Bydd hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol er mwyn helpu i gefnogi arloesedd a'r galw cynyddol am ddata a chysylltedd dros y blynyddoedd nesaf."

Yn unol ag ymagwedd 'Cysylltedd drwy Gydweithio' y Rhaglen Isadeiledd Digidol, mae'r prosiect hwn yn darparu cyfle i ddatblygu perthnasoedd cryf a fydd o fudd i gymunedau lleol yn ogystal ag yn annog buddsoddiadau posib pellach yn nhechnoleg ddigidol yn yr ardal.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ionawr 2024