Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwleidyddion blaenllaw'r ddinas yn mynegi eu barn ar gynnydd Penderyn

​​​​​​​Mae rhai o brif wleidyddion Abertawe wedi ymweld â chynllun adfywio a fydd yn atyniad newydd i fusnes blaenllaw o Gymru.

Councillors at the Copperworks

Councillors at the Copperworks

Mae gwaith y cyngor i adfywio Gwaith Copr yr Hafod-Morfa wedi hen ddechrau a bydd yn cael ei drosglwyddo'n fuan i'r arbenigwyr diodydd, Penderyn.

Roedd aelodau Cabinet y cyngor wrth eu boddau'n cael gweld yr adeiladau a adferwyd a'r adeileddau newydd cyfagos.

Mae'r safle'n cael ei ailwampio gan gwmni o Abertawe, John Weaver Contractors, ar ran Cyngor Abertawe.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae'r fenter hon yn mynd i fod yn hwb mawr i'n gwaith ar adfywio'r rhan hon o Gwm Tawe Isaf."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "60 mlynedd yn ôl yn unig defnyddiwyd rhannau eraill o Gwm Tawe Isaf fel tir gwastraff ôl-ddiwydiannol. Maen nhw bellach yn llawn cyfleoedd busnes, siopa a hamdden i bobl Abertawe - a bydd Penderyn yn ychwanegu at hynny."

Mae gwaith yn parhau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn y flwyddyn nesaf.

Bydd cynllun y cyngor yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa ar y safle hefyd yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni.

Bu'r gwaith yn bosib o ganlyniad i grant £3.75 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn diogelu'n treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac mae'n wych gweld adfywiad safle'r gwaith copr hanesyddol hwn yn arwain y gwaith i adfywio coridor isaf Afon Tawe."

Sicrhaodd y cyngor grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y gwaith helaeth i drawsnewid safle'r Hafod-Morfa, ac mae gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill yn yr ardal yn cael ei gefnogi gan gyllid adfywio Llywodraeth Cymru. 

Gweithiodd y cyngor gyda phartneriaid - gan gynnwys Penderyn a Phrifysgol Abertawe - i greu'r cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Gwnaeth y cyngor gyfres o ymrwymiadau polisi ym mis Mehefin i ddarparu cymorth - yn y 100 niwrnod dilynol - i gymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Roedd parhau i ailddatblygu safle'r gwaith copr yn un o'r ymrwymiadau hynny.

Llun Aelodau Cabinet Cyngor Abertawe yn safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Awst 2022