Toglo gwelededd dewislen symudol

Bae Copr yn rhoi hwb i swyddi ac economi Abertawe

Mae mwy na 2,800 o weithwyr wedi bod yn rhan o ddatblygiad cam un Bae Copr ers i'r gwaith adeiladu gychwyn yn ôl yn 2019.

Copr Bay phase one

Copr Bay phase one

Gyda'i gilydd, maen nhw wedi gwneud gwerth 722,000 awr o waith, a dengys y ffigurau y daw 77% o'r gweithwyr o Gymru.

Mae ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, y parc arfordirol 1.1. erw, y bont newydd dros  Oystermouth Road, lleoedd newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch a chyfleusterau parcio newydd.

Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r ardal, gyda chefnogaeth y rheolwr datblygu, RivingtonHark. Bydd y gwaith i adeiladu'r ardal, dan arweiniad Buckingham Group Contracting, yn cael ei orffen yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Mae Ambassador Theatre Group (ATG), a fydd yn gweithredu'r arena, eisoes wedi penodi tîm i reoli'r lleoliad. Maent ymysg 21 o swyddi amser llawn y bydd yr arena'n eu creu, gydag oddeutu 120 o swyddi achlysurol pellach i'w creu yn yr ardal.

Amcangyfrifir y bydd yr arena, unwaith y bydd yn weithredol, yn cynhyrchu 467 o swyddi amser llawn yn Abertawe pan fydd swyddi anuniongyrchol a grëir mewn sectorau fel y gwasanaethau adeiladau a bwyd a diod hefyd yn cael eu cynnwys.

Mae un o fusnesau Abertawe, The Secret Hospitality Group, wedi ymrwymo i redeg bwyty a chaffi ym mharc arfordirol Bae Copr, a fydd yn cynhyrchu mwy fyth o swyddi i bobl leol. Bydd y busnes hefyd yn ymuno â'r bwytai eraill yn ei grŵp drwy gael gafael ar ei holl gynnyrch o fewn 10 milltir i Abertawe.

Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn cyflogi rhagor o Geidwaid Canol y Ddinas i weithio yn ardal y parc arfordirol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yr hyn sydd wrth wraidd ein cynllun Bae Copr yw creu ardal a fydd o fudd i bobl leol drwy greu swyddi a denu rhagor o ymwelwyr a gwariant ar gyfer ein busnesau presennol.

"Mae'r miloedd o weithwyr adeiladu sydd wedi bod ar y safle drwy gydol y pandemig wedi hybu busnesau lleol ar adeg heriol iawn oherwydd yr arian maent wedi bod yn ei wario ar fwyd, diod a llety, ond bydd cannoedd yn rhagor o swyddi amser llawn yn dilyn ym Mae Copr. Yn ogystal â swyddi'r arena, bydd y rhain hefyd yn cynnwys swyddi i'w creu gan denantiaid y cynllun nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi eto.

"Bydd datblygiad cam un Bae Copr yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe. Drwy ddenu miloedd yn rhagor o bobl i ganol y ddinas, bydd yn cefnogi'n busnesau lleol ymhellach, wrth greu rhagor o fuddsoddiad a swyddi."

Dywed y Cyng. Stewart hefyd fod miloedd o swyddi eraill ar eu ffordd i Abertawe, yn ogystal âr rhai a gynhyrchir gan gam un Bae Copr.

Meddai, "Er nad yw'r cynllun wedi'i orffen eto, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o fuddsoddiad gan y sector preifat yn cael ei sbarduno gan y gwaith, sydd wedi cynyddu proffil Abertawe'n sylweddol ledled y DU a thu hwnt.

"Ychydig wythnosau'n ôl, cyhoeddom ein partner datblygu sector preifat o ddewis - Urban Splash - i wneud gwaith gwerth £750m i drawsnewid sawl safle allweddol yn Abertawe, gan gynnwys safle Gogledd Abertawe Ganolog ar draws y ffordd i'r Arena lle mae gennym gynlluniau ar gyfer hwb sector cyhoeddus. Bydd y cynlluniau hyn yn cyfuno i greu 10,000 yn rhagor o swyddi diogel yn Abertawe, a bydd gwaith adeiladu'n dechrau cyn bo hir ar y datblygiad swyddfa newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi eraill."

Mae elfen yr arena o gam un Bae Copr yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, ynghyd â'r datblygiad swyddfa a gynllunnir ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin.

Ariennir y bont nodedig sy'n rhan o'r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith