Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i ailddechrau ar gynllun Bae Copr

Bydd gwaith yn ailddechrau cyn bo hir ar ddatblygiad Bae Copr Abertawe gyda'r bwriad o agor y maes parcio aml-lawr newydd erbyn diwedd y flwyddyn.

arena from the air

arena from the air

Mae Cyngor Abertawe wedi penodi'r cwmni lleol Andrew Scott Ltd i wneud y gwaith.

Mae'r penodiad yn dilyn gwaith a wnaed gan Wilmott Dixon i arolygu'r safle'n fanwl i gadarnhau cwmpas y gwaith gorffen sydd ei angen ar ôl i gontractwr gwreiddiol y cyngor ar gyfer y cynllun - Buckingham Group Ltd - fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Bydd Andrew Scott Ltd ar y safle'n fuan i ddechau'r gwaith sydd ei angen i orffen y maes parcio newydd ac unedau manwerthu ar ochr canol y ddinas o Oystermouth Road.

Mae'r trefniadau ariannol a roddwyd ar waith gan y Cyngor yn golygu na ragwelir y bydd unrhyw gostau ychwanegol i'r awdurdod na threthdalwyr y cyngor.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gweithredodd y Cyngor yn gyflym ar ôl i Buckingham Group fynd i ddwylo'r gweinyddwyr i amddiffyn ein sefyllfa a phenodi Wilmott Dixon i gadarnhau maint a chwmpas y gwaith yr oedd ei angen ar y safle i orffen datblygiad Bae Copr.

"Hoffem ddiolch i Wilmott Dixon am eu harweiniad a'u gwaith arolygu a fydd bellach yn llywio'r gwaith y bydd Andrew Scott Ltd yn ei wneud.

"Bydd cwblhau'r maes parcio, unedau manwerthu a gwaith gorffen arall yn dilyn prosiect sydd eisoes wedi cyflwyno Arena Abertawe, y parc arfordirol, y maes parcio o dan yr arena a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

"Mae'r cyfleusterau hyn eisoes wedi bod o fudd i gannoedd ar filoedd o bobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas."

Rhwng ei hagoriad ym mis Mawrth 2022 a diwedd y llynedd, dengys ffigurau fod dros 350,000 o bobl wedi ymweld ag Arena Abertawe i fynd i ddigwyddiadau yr oedd angen tocynnau ar eu cyfer yn ogystal â chynadleddau, arddangosfeydd, digwyddiadau creu dysgu a seremonïau graddio prifysgolion.

Mae rhai o'r perfformwyr sydd wedi ymddangos ar y llwyfan yno'n cynnwys Johnny Depp gyda'r Hollywood Vampires, Michael McIntyre, Royal Blood, Jersey Boys a Katherine Jenkins.

Yn y misoedd i ddod, bydd perfformwyr sy'n cynnwys Gladys Knight, Katherine Ryan, Status Quo a The Cult yn perfformio yno

Close Dewis iaith