Awgrymiadau adeiladu ar gyfer disgyblion yn ystod ymweliad â Bae Copr
Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Pentrehafod Abertawe wedi ymweld â datblygiad cam un Bae Copr y ddinas i weld y cynnydd a wnaed ar y safle â'u llygaid eu hunain.
Gwnaeth y disgyblion o flwyddyn 10 ac 11, sy'n llysgenhadon ar gyfer dosbarth busnes y mae Buckingham Group Contracting Ltd yn ei redeg gyda'r ysgol, weld sut mae nodweddion y cynllun, sy'n cynnwys Arena Abertawe a'r parc arfordirol newydd, yn dod yn eu blaenau.
Mae Buckingham Group Contracting Ltd yn arwain ar y gwaith o adeiladu prosiect cam un Bae Copr gwerth £135 miliwn, sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwyr datblygu, RivingtonHark.
Yr ymweliad dosbarth busnes oedd y diweddaraf o nifer i'r safle, lle mae disgyblion yn tynnu ffotograffau o newidiadau, yn dysgu rhagor am y diwydiant adeiladu ac yn adrodd yn ôl i'w cyd-ddisgyblion ar y datblygiadau diweddaraf.
Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Abertawe, Buckingham Group Contracting Ltd a Gyrfa Cymru hefyd yn bresennol yn ystod yr ymweliad.
Meddai llefarydd ar ran dosbarth busnes ysgol Gyfun Pentrehafod, "Roedd yn anhygoel gweld sut brofiad fyddai gweithio ar safle adeiladu.
"Roedd hefyd yn wych gweld faint o gynnydd a wnaed ers yr ymweliad cyntaf."
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r ardal cam un Bae Copr ar gyfer pobl Abertawe, felly roedd yn bleser croesawu'r plant ysgol lleol hyn i'r safle lle gallent weld yn agos y cynnydd enfawr a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf.
"Eu cenhedlaeth nhw fydd yn elwa o gyfleusterau fel yr arena a'r parc arfordirol am flynyddoedd lawer, ond mae'r ymweliadau hyn hefyd yn galluogi mewnwelediad i'r diwydiant adeiladu ar adeg pan mae cymaint o waith ailddatblygu yn mynd yn ei flaen i drawsnewid ein dinas yn un o leoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.
"Gall ymweliadau fel y rhain ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu trwy ddangos sut y gall pynciau ysgol roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc iddynt symud ymlaen i'r diwydiant."
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Buckingham Group Contracting Ltd restr fer gwobr 'Y Berthynas Barhaus Orau gydag Ysgol' yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru.
Meddai Susan Jones, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Prosiectau Mawr gyda Buckingham, "Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Ysgol Gyfun Pentrehafod dros y ddwy flynedd ddiwethaf.Ar ôl cyflwyno cais ar gyfer eu rolau, dewiswyd 14 disgybl i ddod yn llysgenhadon Buckingham ar gam un Bae Copr. Maent wedi profi i fod yn llysgenhadon rhagorol, gan weithio gyda mi a thîm y safle i fonitro cynnydd drwy gydol y gwaith o adeiladu'r prosiect eiconig hwn."
Disgwylir i'r gwaith i adeiladu cam un Bae Copr gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni, gyda'r arena, a gaiff ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.
Mae cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys fflatiau newydd, y bont newydd dros Oystermouth Road, mannau parcio ceir newydd a lleoedd newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.
Mae nodwedd arena cam un Bae Copr yn cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd hefyd yn cynnwys datblygiad swyddfa newydd 71-72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei adeiladu'n fuan.
Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.