Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru

Mae pwyllgor newydd wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf gyda'r nod o hybu ffyniant economaidd ymhellach ar draws de-orllewin Cymru.

Meeting room

Meeting room

Mae'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, wedi'i ethol yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-Orllewin Cymru am y 12 mis nesaf yn dilyn ei gyfansoddiad ffurfiol ddydd Iau 13 Ionawr.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Etholwyd y Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, yn Is-gadeirydd.

Gyda'r dasg o baratoi cynlluniau trafnidiaeth a datblygu strategol ar gyfer y rhanbarth, gall y Cyd-bwyllgor Corfforaethol hefyd arfer pwerau lles economaidd.

Bydd Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn cyflawni dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor am flwyddyn gyntaf ei weithrediad. Ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y rôl yn cylchdroi rhwng pedwar awdurdod lleol de-orllewin Cymru.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r pedwar awdurdod lleol wedi gweithio'n gynhyrchiol dros y misoedd diwethaf gyda'r ddau awdurdod parciau cenedlaethol i alluogi Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i gael ei sefydlu o fewn yr amserlen ofynnol.

"Bydd y pwyllgor hwn yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd eisoes yn eu lle, gan roi cynllunio strategol ar gyfer cludiant, ynni a datblygu economaidd ar sylfaen gadarn yn ogystal â pharatoi'r ffordd i'r rhanbarth lunio'i gynllun datblygu strategol cyntaf.

"Mae gennym eisoes enw da yn y rhanbarth o ran cydweithio, gyda'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn rhoi hwb newydd i'n gwaith i hybu ffyniant economaidd ymhellach ar draws de Orllewin Cymru."

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-Orllewin Cymru yn un o bedwar sy'n cael eu sefydlu yng Nghymru. Maent yn cael eu cyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Ionawr 2022