Toglo gwelededd dewislen symudol

Bywyd newydd ar gyfer tirnod y parc

Mae gan adeilad hanesyddol yn Abertawe ddyfodol newydd a disglair diolch i'w lesddeiliad newydd.

Swiss Cottage

Swiss Cottage

Mae Cyngor Abertawe wedi prydlesu'r Bwthyn Swistirol ym Mharc Singleton i Tifa Properties.

Mae cyfarwyddwr Tifa sy'n dod o Abertawe, Michael Border, yn bwriadu trawsnewid y lleoliad yn ganolbwynt ar gyfer defnyddwyr y parc.

Mae'n awyddus i fwy o bobl fwynhau'r adeilad rhestredig gradd dau a'i leoliad anhygoel yn y parc.

Mae wedi cynllunio caffi ac unedau bwyd a diod ar wahân - a digon o seddi dan do.

Er mwyn ei helpu i'w gyflawni, bydd yn cyflwyno ceisiadau am gyllid o gronfeydd treftadaeth ac am ganiatâd cynllunio. Bydd yr asiantaethau y bydd yn gweithio gyda nhw'n cynnwys y cyngor a'r corff henebion hanesyddol, Cadw.

Meddai Mr Border, "Rwy'n ei ddychmygu fel hwb cymunedol yn ystod y dydd. Rydym am wybod beth hoffai pobl leol ei gael ac rydym yn siarad â grwpiau sy'n defnyddio'r parc."

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn falch iawn bod busnes lleol wedi cymryd yr eiddo arbennig hwn. Mae ganddo ddyfodol disglair."

Mae'r bwthyn wedi bod yn wag yn ddiweddar; mae'r cyngor wedi bod yn ei gynnal.

Mae Mr Border yn bwriadu tacluso'r ardal fewnol a dodrefnu'r ardal allanol. Ni fydd golwg y bwthyn yn newid.

Delwedd: Y Bwthyn Swistirol. Llun: Cyngor Abertawe

 

Close Dewis iaith