Cynllun grant COVID ar gyfer busnesau nad ydynt yn talu ardrethi busnes
Mae cynllun grant brys bellach ar gael i fusnesau Abertawe yn y sectorau hamdden, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu nad ydynt yn talu ardrethi busnes.
Mae cynllun grant y Gronfa Argyfwng Busnes sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Gyngor Abertawe, wedi'i anelu at helpu i gefnogi busnesau y mae cyfyngiadau presennol COVID yn effeithio arnynt nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.
Mae ceisiadau ar-lein bellach ar agor i'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt rhwng y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar gyfer y cyfnod rhwng dydd Llun 13 Rhagfyr a dydd Llun 14 Chwefror, ac maent yn cwmpasu dwy lefel o ddyfarniad grant:
- Taliad grant o £1,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i'r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo
- Taliad grant o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig sy'n cyflogi staff drwy gynllun Talu Wrth Ennill (yn ogystal â'r perchennog)
Mae'r ddau grant yn cynnwys gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol.
Gofynnir i fusnesau a all fod yn gymwys fynd i https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/lle mae'n rhaid llenwi gwiriwr cymhwysedd Busnes Cymru cyn bod ymgeiswyr yn gallu cyrchu'r ffurflen gais.
Rhaid cyflwyno'r holl geisiadau erbyn 5pm nos Lun 14 Chwefror.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n bwysig bod pob busnes yn Abertawe y mae cyfyngiadau presennol Omicron wedi effeithio arnynt yn gallu cael cymorth ariannol, a nod y cynllun grant diweddaraf hwn yw cefnogi llawer o fusnesau nad ydynt efallai'n gymwys ar gyfer y cynlluniau cymorth eraill sydd eisoes ar waith.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel cyngor i gynorthwyo'n cymuned fusnes yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, gyda mwy na £150m wedi'i neilltuo i ddarparu cymorth ers dyfodiad COVID.
"Byddwn yn annog unrhyw fusnes a all fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol brys i lenwi cais. Bydd swyddogion y cyngor yn gwneud popeth y gallant i brosesu taliadau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosib."
Mae cynllun grant ar gyfer lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sy'n gymwys i dalu ardrethi annomestig hefyd yn fyw erbyn hyn. Mae hyn yn golygu y gallai'r busnesau hyn fod â hawl i grantiau o £2,000, £4,000 neu £6,000, yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol.
Mae rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwysedd a manylion cofrestru a chyflwyno cais ar gyfer y cynllun grant hwnnw ar gael yn awr yn www.abertawe.gov.uk/GrantiauBusnesArdrethiAnnomestigCovid