Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau eisoes wedi'u neilltuo i dros 50 o brosiectau adfer

Mae bron £13.6m eisoes wedi'i neilltuo i ariannu dros 50 o brosiectau fel rhan o gynllun Cyngor Abertawe i helpu busnesau a chymunedau adfer o effaith y pandemig.

View of Swansea

View of Swansea

Mae prosiectau a ariennir gan gronfa adferiad economaidd y cyngor yn cynnwys cynlluniau bysus am ddim i helpu siopa lleol, yn ogystal â darparu'r defnydd o fannau cyhoeddus awyr agored am ddim er mwyn i fusnesau ehangu.

Mae'r gronfa adferiad economaidd hefyd wedi galluogi llawer o glybiau pêl-droed, criced a bowls yn Abertawe i ddefnyddio meysydd chwarae am ddim.

Trefnir bod grantiau o hyd at £1,000 ar gael i gefnogi busnesau newydd, gyda grantiau o hyd at £10,000 yn cael eu darparu i helpu busnesau ar draws y ddinas wella golwg eu heiddo.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cynyddu ei gronfa adferiad economaidd o £20m i £25m er lles posib mwy fyth o fusnesau a chymunedau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae neilltuo dros £13.5m hyd yn hyn i fwy na 50 o brosiectau fel rhan o'n cronfa adferiad economaidd yn dangos pa mor ddifrifol rydym yn cymryd ein hymrwymiad i gefnogi'n busnesau a'n cymunedau i adfer o'r pandemig.

"Mae cryfder ysbryd cymdogaethol - gyda busnesau lleol yn ganolog iddynt - wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol argyfwng COVID, felly maent wir yn haeddu cymaint o gefnogaeth â phosib wrth i ni geisio diogelu swyddi, creu cyflogaeth newydd a sicrhau bod Abertawe mewn safle mor gryf â phosib i adfer yn gyflym o effaith y pandemig.

"Dyna pam rydym hefyd yn bwriadu rhoi £5 ychwanegol i'n cronfa adferiad economaidd i sicrhau y gall mwy fyth o fusnesau a chymunedau elwa.

"Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn dilyn gwerth £150m o gymorth sydd eisoes wedi'i ddarparu i fusnesau ers cychwyniad COVID."

Mae swyddogion y cyngor bellach yn gweithio drwy geisiadau gan yr holl fusnesau sydd wedi gwneud cais am grantiau i wella golwg eu heiddo.

Mae camau eraill gan y cyngor i gefnogi busnesau'n cynnwys gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru drwy'r cynllun Trawsnewid Trefi, yn ogystal â'r wefan siopa'n lleol.

Mae'r wefan siopa'n lleol yn rhestru manylion busnesau lleol mewn cymunedau sy'n cynnwys Clydach, Gorseinon, Tre-gŵyr Cilâ, Treforys, y Mwmbwls Pontarddulais, Sgeti ac Uplands.