Cymorth ariannol ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau cyfredol
Gall busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Abertawe yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau cyfredol Coronafeirws wneud cais yn awr ar gyfer cymorth ariannol brys.
Diben y cynllun grant newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor Abertawe, yw cefnogi busnesau yn y sectorau hyn yn ogystal ag elusennau a sefydliadau nid er elw, y mae'r symudiad i rybudd lefel dau yn hwyr fis diwethaf wedi effeithio arnynt.
Gallai busnesau cymwys yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi sy'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig fod â hawl i grantiau o £2,000, £4,000 neu £6,000, gan ddibynnu ar eu gwerth ardrethol.
Mae rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwysedd a manylion cofrestru a chyflwyno cais ar gael yn awr yn www.abertawe.gov.uk/GrantiauBusnesArdrethiAnnomestigCovid
Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau sef 5pm ddydd Llun 14 Chwefror.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae busnesau ar draws Abertawe wedi bod yma i ni trwy gydol y pandemig, a byddwn yn parhau i fod yma ar eu cyfer hefyd.
"Mae'r pecyn cymorth diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n ymateb i'r aflonyddwch o ganlyniad i amrywiolyn Omicron a'r cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith, yn adeiladu ar bopeth y mae'r cyngor wedi'i wneud i gefnogi busnesau a chymunedau Abertawe yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys clustnodi grantiau gwerth dros £150m ers dechrau COVID-19, yn ogystal â neilltuo mwy na £13m i dros 50 o brosiectau fel rhan o gronfa adferiad economaidd y cyngor hyd yn hyn.
"Byddwn yn annog pob busnes, elusen a sefydliad nid er elw sy'n gymwys ar gyfer y pecyn diweddaraf hwn o gymorth ariannol i wneud cais ar wefan y cyngor erbyn y dyddiad cau. Amcangyfrifwn y byddwn yn derbyn tua 4,000 o geisiadau grant ond byddwn yn ceisio prosesu'r ceisiadau a gwblhawyd yn llawn o fewn saith niwrnod gwaith. Bydd yn cymryd yn hwy i asesu unrhyw ffurflenni cais y mae angen eu gwirio ymhellach neu y mae angen tystiolaeth ategol arnynt."
Bydd busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithiwyd arnynt, yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi, hefyd yn gallu gwneud cais cyn bo hir yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am arian ychwanegol o Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Bydd grantiau o rhwng £2,500 a £25,000 ar gael, gan ddibynnu ar faint y busnes a nifer y gweithwyr. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cyfle i wneud cais am y grantiau hyn yn cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 17 Ionawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru lle mae gwiriwr cymhwysedd ar gael i helpu busnesau i gael amcan o faint y gallant ddisgwyl i'w dderbyn.
Bydd cynllun grant dewisol Cronfa Argyfwng i Fusnesau i fusnesau a masnachwyr unigol nad ydynt yn talu ardrethi, a gaiff ei gynnal gan Gyngor Abertawe, yn mynd yn fyw yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y gronfa'n darparu £500 i fasnachwyr unigol a gweithwyr llawrydd a £2,000 i fusnesau sy'n cyflogi yn y sectorau yr effeithiwyd arnynt. Bydd y cyngor yn diweddaru'r gymuned fusnes cyn gynted ag y bydd ffurflenni cais ar gyfer y cynllun hwn ar gael.