Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn rhannu stori lwyddiant hwb cymunedol

Gofynnwyd i ysgol sydd wedi rhoi bywyd newydd i neuadd gymunedol yn ei thiroedd rannu'r stori lwyddiant gyda gweddill Cymru.

Craigfelen School community hub

Craigfelen School community hub

Mae rhwng 40 a 50 o bobl yn defnyddio'r caffi a gynhelir yn y neuadd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Craigfelen yn rheolaidd.

Ers i'r adeilad newid dwylo, mae'n cael ei ddefnyddio at wahanol ddibenion, y mae'r caffi yn un ohonynt, ac mae mwy o syniadau cyffrous i ddilyn.

Dywedodd y Pennaeth Alison Williams fod angen lle cymunedol diogel ar y gymuned lle byddai preswylwyr yn teimlo bod croeso iddynt fynd yno a chymryd rhan mewn digwyddiadau rheolaidd.

Drwy weithio gyda Chyngor Abertawe ac ar ôl sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru, camodd yr ysgol i mewn.

Close Dewis iaith