Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi'n Llwyddiant Mawr

Gwnaeth Gŵyl Croeso Abertawe ychwanegu lliw a chân at y ddinas i helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Croeso festival 2024

Croeso festival 2024

Roedd y dathliadau'n cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio ac adloniant i'r teulu. Roedd amrywiaeth eang o leoliadau'n cymryd rhan.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Helpodd Croeso i roi hwb i ddiwylliant Cymru dros y penwythnos; roedd teuluoedd a miloedd o bobl eraill sy'n gwerthfawrogi cerddoriaeth a bwyd wedi joio mas draw!"

Roedd yr ŵyl yn cynnwys digwyddiad cerddoriaeth am ddim yng nghyntedd Arena Abertawe a'r digwyddiad Cân i Gymru 2024 yn yr arena.

Cyflwynodd Neuadd Brangwyn 'Stravaganza' Dydd Gŵyl Dewi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru gan gynnwys Karl Jenkins.

Roedd y gweithgareddau am ddim yn cynnwys arddangosiadau coginio gan ben-cogyddion penigamp. Roedd sioeau i blant, yn ogystal â pherfformwyr yn cerdded o gwmpas y lle, cymeriadau a chrefftau.

Roedd Marchnad Abertawe, y Cwadrant ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymysg y rheini a ymunodd yn y dathlu. Roedd cerddoriaeth mewn lleoliadau fel Tŷ Tawe, The Bunkhouse ac Elysium.

Cyflwynwyd Croeso yng nghanol y ddinas gan y Cyngor mewn cydweithrediad â First Cymru Buses Ltd gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.

Meddai Aled Williams o First Cymru, "Roeddem yn falch iawn o noddi'r dathliad bywiog hwn o ddiwylliant Cymru."