Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar ddechrau blwyddyn fawr arall yn Abertawe

Cynllunnir cyfres gyffrous o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi gan Gyngor Abertawe ac eraill ar draws y ddinas.

A previous Croeso festival

A previous Croeso festival

Cynhelir digwyddiad blynyddol Gŵyl Croeso'r cyngor dros bedwar diwrnod o 29 Chwefror a bydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, adloniant i'r teulu a gorymdaith stryd.

Mae'r lleoliadau amrywiol yn cynnwys canol y ddinas - lle bydd hwyl am ddim i bawb - a Neuadd Brangwyn ac Arena Abertawe, lle bydd digwyddiadau cerddorol cofiadwy mewn lleoliadau dan do o safon.

Bydd dathliadau digwyddiad Croeso Dydd Gŵyl Dewi'n rhoi blas ar yr hyn sydd i ddod yn 2024 gan fod tîm Joio Bae Abertawe'r cyngor wedi cynllunio rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni a bydd yn dechrau gyda digwyddiad Croeso, a fydd yn llawn lliw a chanu - ac yn cynnwys cyfres o ddathliadau cyffrous ar draws y ddinas ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

"Trwy gydol 2024, bydd digwyddiadau lleol yn amrywio o adloniant am ddim a chost isel i deuluoedd i gerddoriaeth gan artistiaid enwog o safon ym Mharc Singleton ac athletwyr o'r radd flaenaf."

Cynhelir digwyddiad blynyddol Gŵyl Croeso Abertawe rhwng 29 Chwefror a 3 Mawrth.

Bydd canol y ddinas yn gartref i weithgareddau am ddim, gan gynnwys cyfres o arddangosiadau coginio gan gogyddion enwog, cerddoriaeth fyw a llawer o bethau ar gyfer plant.

Bydd cyfle i fusnesau lleol arddangos eu cynnyrch a bod yn rhan o'r hwyl. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein - www.bit.ly/CroesoFood24

Cynhelir gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi.

Cyflwynir gweithgareddau canol y ddinas digwyddiad Croeso gan y cyngor mewn cydweithrediad â First Cymru Buses Ltd a chyda cefnogaeth Bwyd a Diod Cymru a Nathaniel Cars.

Bydd digwyddiad Croeso'n lansio ar 29 Chwefror gyda digwyddiad am ddim yng nghyntedd Arena Abertawe i ddarparu rhagolwg o ddigwyddiad Cân i Gymru Song for Wales 2024 <http://www.bit.ly/ArenaCan24> a gynhelir yn yr arena y noson ganlynol.

Bydd y digwyddiad lansio'n cynnwys setiau byw a chan DJs gan oreuon cerddoriaeth iaith Gymraeg gyfoes.

Ar yr un noson, draw yn Neuadd Brangwyn, cynhelir cyngerdd Stravaganza Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Close Dewis iaith