Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Croeso'n llwyddiant ysgubol

Daeth miloedd o bobl i ddathliad blynyddol Abertawe o bopeth Cymreig - Croeso.

Croeso 2023

Croeso 2023

Roedd pawb wedi mwynhau'r digwyddiad am ddim a oedd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, arddangosiadau coginio, cerddoriaeth, grwpiau cymunedol a llawer o adloniant i'r teulu.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru, gyda chefnogaeth Food & Drink Wales.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Roedd Croeso yn gyfle i Abertawe ddathlu diwylliant Cymru. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn manteisio ar y ryseitiau am ddim yn yr arddangosiadau coginio, yn cael cip ar yr holl gynnyrch ar gynnig, yn mwynhau'r adloniant byw ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau plant."

Meddai rheolwr cyffredinol First Cymru, Chris Hanson, "Roeddem yn gyffrous iawn am y penwythnos a'r hyn yr oedd yn ei gynnig i deuluoedd."

Roedd y pen-cogyddion yn cynnwys John Partridge, Hywel Griffith, Jack Stein a Kwoklyn Wan. Darparwyd cerddoriaeth fyw gan berfformwyr fel Eleri Angharad, Melda Lois ac Araby.

Ymunodd y cyngor â Hwb Cerddoriaeth Abertawe, Menter Iaith Abertawe a lleoliadau lleol i gyflwyno cerddoriaeth fyw Nosweithiau Cerdd Croeso, gan gynnwys artistiaid fel Motel Thieves, Ci Gofod a Grey Flx.

Darparwyd adloniant i'r teulu gan Roly Poly a Mellin Theatre Arts. Roedd yr orymdaith yn cynnwys Sunflowers Wales yn cyflwyno diolch i Gymru oddi wrth Gymuned Wcreinaidd Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023