Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Abertawe i ddechrau ddydd Iau

​​​​​​​Bydd gŵyl Croeso Abertawe'n dechrau ddydd Iau, gan ddod â lliw a chân i'r ddinas.

Rustie Lee

Rustie Lee

Bydd y dathliadau - rhwng 29 Chwefror a 3 Mawrth - yn cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, adloniant i'r teulu a gorymdaith stryd. Bydd amrywiaeth o leoliadau'n cymryd rhan.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Bydd Croeso'n tanio diwylliant Cymru; bydd teuluoedd a miloedd o bobl eraill sy'n mwynhau cerddoriaeth a bwyd yn dwlu arno!"

Disgwylir i'r ŵyl lansio ddydd Iau gyda digwyddiad cerddoriaeth am ddim rhwng 6pm ac 8pm yng nghyntedd Arena Abertawe. Bydd hyn yn digwydd cyn digwyddiad Cân i Gymru 2024 yn yr arena y noson wedyn.

Bydd Neuadd Brangwyn hefyd yn cynnal cyngerdd Stravaganza Dydd Gŵyl Dewi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth gan y cyfansoddwyr Karl Jenkins a William Mathias o Gymru. Dechrau: 7.30pm.

Bydd y digwyddiadau am ddim yng nghanol y ddinas ar gyfer gŵyl Croeso'n cynnwys arddangosiadau coginio gan gogyddion enwog. Ddydd Sadwrn, mae Rustie Lee'n bwriadu coginio bwyd blasus gydag elfennau Cymreig a bydd Tom Surgey yn cymysgu coctels mewn pabell ar Portland Street.

Bydd digwyddiadau awyr agored y penwythnos yn St David's Place yn cynnwys sioeau i blant, perfformwyr yn cerdded o gwmpas, cymeriadau a chrefftau. Cynhelir gorymdaith ddydd Sadwrn am 12.30pm o St David's Place.

Bydd Marchnad Abertawe, y Cwadrant ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymhlith y rheini a fydd yn ymuno yn y dathliadau.

Mae'r perfformwyr cerddoriaeth fyw sydd wedi'u cadarnhau'n cynnwys The Phoenix Choir of Wales, Dagrau Tân a Gwilym.

Disgwylir i raglen berfformiadau Nosweithiau Cerdd ddychwelyd i leoliadau Tŷ Tawe, The Bunkhouse ac Elysium.

Cyflwynir gweithgareddau canol y ddinas digwyddiad Croeso gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru Buses Ltd, gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.

Meddai Aled Williamso First Cymru, "Rydym yn falch iawn o noddi'r dathliad bywiog hwn o ddiwylliant Cymru yn Abertawe."

Gwybodaeth: Dilynwch Joio Bae Abertawe ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.croesobaeabertawe.com/events/croeso-3/

Llun: Rustie Lee.

Close Dewis iaith