Toglo gwelededd dewislen symudol

Yn galw ar holl gymunedau Abertawe sy'n chwilio am gyllid newydd

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi cronfa gwerth £60,000 er mwyn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr wella'u hardaloedd lleol.

Gower Grow Space

Gower Grow Space

Bydd rownd newydd rhaglen Cyllido Torfol Abertawe yn galluogi pobl ar draws y ddinas i gael mynediad at arian ar gyfer mentrau gwella cymunedol.

Mae'r Cyngor a'i bartner codi arian cymunedol, Spacehive, yn awyddus i glywed gan breswylwyr a chanddynt syniadau blaengar i wella'u hardaloedd lleol.

Does dim angen unrhyw brofiad codi arian, mae mwyafrif y bobl sy'n defnyddio Spacehive yn bobl sy'n rhoi prosiect cymunedol at ei gilydd am y tro cyntaf.

Mae Spacehive yn helpu crewyr prosiect gyda gweithdai ar-lein, cymorth un i un ac adnoddau, gan ddarparu cyngor ar bopeth, o gostau prosiect i hyrwyddo ymgyrchoedd.

Bydd gweithdy ar-lein am ddim Cyllido Torfol Abertawe yn cael ei gynnal am awr o 12pm ddydd Mercher, 21 Chwefror. Bydd yn cynnig manylion allweddol ynghylch sut i gymryd rhan yng nghyfnod ariannu gwanwyn 2024.Gallwch gofrestru yma.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na £350,000 wedi'i godi drwy ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe, ac mae pob punt yn helpu i wella cymunedau lleol.

"Rydym yn barod i gefnogi rhagor o brosiectau sy'n rhoi pobl leol wrth wraidd yr ymdrechion i roi hwb i Abertawe."

Ar ôl gweithio gyda Spacehive dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi cefnogi ystod o syniadau trawsnewidiol a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys stiwdio celf fotanegol Gower Grow Space, wedi'i hail-bwrpasu o dŷ gwydr gwag.

Dylid lansio'r holl syniadau prosiect ar lwyfan Spacehive yn rownd y gwanwyn a'u cyflwyno i'r cronfeydd arian sydd ar gael erbyn 20 Mawrth.

Mae rhaglen Cyllido Torfol Abertawe yn cael ei chyllido'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dylai busnesau sydd â diddordeb mewn rhoi ernes a chefnogi prosiectau e-bostio Spacehive i gael gwybodaeth.

Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect yn eich ardal leol, cysylltwch â Spacehive.

Lluniau: Gower Grow Space.

Close Dewis iaith