Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn lansio cronfa gwerth £50 mil i gefnogi prosiectau cymunedol

​​​​​​​Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi cronfa gwerth £50,000 er mwyn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr wella'u hardaloedd lleol.

GowerGrow

GowerGrow

Mewn partneriaeth â'r platfform codi arian, Spacehive, bydd y rownd ddiweddaraf o raglen Cyllido Torfol Abertawe'n galluogi pobl ar draws y ddinas i gael mynediad at gyllid ar gyfer mentrau gwella cymunedol.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae'r cyngor a Spacehive yn awyddus i glywed gan breswylwyr a chanddynt syniadau blaengar i wella'u hardaloedd lleol.

Mae Spacehive yn helpu crewyr prosiect gyda gweithdai ar-lein, cymorth 1 i 1 ac adnoddau, gan ddarparu cyngor ar bopeth, o gostau prosiect i hyrwyddo ymgyrchoedd.

Bwriedir i lansiad un awr am ddim Cyllido Torfol Abertawe yr haf hwn gael ei gynnal o ganol dydd, ddydd Mercher 9 Awst. Bydd yn cynnig manylion allweddol ynghylch sut i gymryd rhan. Gallwch gofrestru yma.

Ar ôl gweithio gyda Spacehive dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi cefnogi amrywiaeth o syniadau trawsnewidiol a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys Sweet Pickings a Gower Grow Space.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor,Andrew Stevens: "Po fwyaf o bobl sy'n ymwneud â Chyllido Torfol Abertawe, y mwyaf o leoedd anhygoel y gallwn eu creu gyda'n gilydd.

"Gall cwmnïau a sefydliadau gynnig cefnogaeth ar gyfer syniadau y mae pobl yn eu rhannu ar Gyllido Torfol Abertawe. Mae'r rheini sydd eisoes yn cefnogi yn cynnwys Gower Power CIC."

Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect yn eich ardal leol, cysylltwch â Spacehive.

Llun: Gower Grow Space, a gefnogir gan Gyllido Torfol Abertawe.

 

 

Close Dewis iaith