Hwb marchnata newydd ar y ffordd i fyd diwylliannol Abertawe
Mae ymgyrch fywiog newydd yn cael ei lansio i ddenu mwy fyth o bobl i fyd celfyddydol, diwylliannol a cherddoriaeth fyw Abertawe.
Bydd yn gyfrwng i arddangos lleoliadau diwylliannol a busnesau adloniant byw y ddinas i breswylwyr ac ymwelwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Yn yr ymgyrch farchnata a drefnir gan y Cyngor bydd swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â digwyddiadau a lleoliadau o'r sectorau preifat a chyhoeddus.
Bydd y sylw ychwanegol y byddant yn ei gael drwy'r ymgyrch yn rhad ac am ddim.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae gan y ddinas amgylchedd celfyddydol a diwylliannol cyffrous ac egnïol - a bydd yn cael hyd yn oed mwy o gefnogaeth diolch i ymgyrch a fydd yn para blwyddyn."
Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb: "Byddwn yn annog lleoliadau, busnesau ac eraill i achub ar y cyfle pan fydd swyddogion ein hymgyrch yn cysylltu â nhw."
Daw cyllid ar gyfer y cynllun o Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU sy'n cefnogi ystod o brosiectau'r cyngor gyda £38.4m.
Fel rhan o hynny, mae gweithgarwch tîm diwylliant a thwristiaeth y cyngor yn cynnwys datblygu rhwydwaith creadigol a chyflwyno cyfleoedd i wella sgiliau digidol.
Mae'r cynlluniau sy'n cael cymorth gan y CFfG sydd eisoes yn mynd rhagddynt yn y ddinas yn cynnwys rhaglen gyllid newydd ar gyfer busnesau llety twristiaeth bach.
Mae'r rheini a allai elwa o'r ymgyrch farchnata newydd yn cynnwys lleoliadau cerddoriaeth fyw, orielau a digwyddiadau.
Mae swyddogion wedi dechrau amlinellu'r cyfleoedd ar gyfer lleoliadau, busnesau ac eraill - ac maent yn cael adborth cadarnhaol.
Bydd eu hymgyrch proffil uchel yn cynnwys hyrwyddiad digidol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Croeso Bae Abertawe a hysbysebion mewn ardaloedd lle ceir nifer mawr o ymwelwyr.
Gwybodaeth: Tîm.twristiaeth@abertawe.gov.uk
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Cyngor Abertawe yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer De-orllewin Cymru.
Llun: Oriel Mission yn ardal forol Abertawe.