Menter elusennol newydd eisoes yn cefnogi miloedd
Mae pobl ifanc sy'n gadael gofal a theuluoedd ac unigolion sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw ymhlith miloedd sydd eisoes wedi elwa o fenter elusennol newydd a lansiwyd yn Abertawe fis diwethaf.
Cwtch Mawr yw banc pob dim cyntaf Cymru a sefydlwyd i ddarparu hanfodion dros ben i'r rhai mewn angen.
Arweinir y cynllun gan yr elusen o Abertawe, Ffydd Mewn Teuluoedd, gyda chefnogaeth Amazon a chyn-brif Weinidog y DU, Gordon Brown.
Cyngor Abertawe yw un o'r partneriaid sefydlu ariannol ac mae wedi helpu i sicrhau'r warws y mae'n gweithredu ohono.
Hyd yn hyn mae Cwtch Mawr wedi cefnogi bron 10,000 o wahanol bobl.
Mae hyn yn cynnwys 66 o bobl ifanc, 56 o deuluoedd a 124 o unigolion a gefnogir yn uniongyrchol gan Gyngor Abertawe.
Yr wythnos hon ymwelodd aelodau Cabinet Abertawe â'r warws i weld sut mae'n dod yn ei flaen wrth iddo barhau i dyfu.