Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau bwyd yn 'llinell fywyd' i deuluoedd, meddai elusen

Yn ôl elusen sy'n gweithio i gefnogi rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Abertawe, mae cyllid i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd wedi bod yn llinell fywyd i deuluoedd.

Clase Community Cwtch - Alyson Anthony visit for Direct Food Grants

Clase Community Cwtch - Alyson Anthony visit for Direct Food Grants

Ffydd Mewn Teuluoedd oedd un o'r 48 o sefydliadau yn y ddinas i gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid drwy'r Grant Cymorth Bwyd Uniongyrchol.

Mae'r grant yn cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan Gyngor Abertawe i gefnogi pobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Ymwelodd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, â Chwtsh Cymunedol y Clâs, sy'n cael ei redeg gan Ffydd Mewn Teuluoedd, i ddysgu am yr effaith y mae'r grant wedi'i chael yno.

Yn y Clâs, cymerodd teuluoedd ran mewn sesiynau coginio lle daethant at ei gilydd i baratoi prydau iach drwy ddilyn cardiau ryseitiau, ac yna aethant â'r cardiau adref gyda nhw ynghyd â chyflenwadau ac offer lle bo angen.