Toglo gwelededd dewislen symudol

AoS - Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

 

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o Raglen Dreigl Amlinello Strategol gymeradwy Cyngor Abertawe (sy'n adlewyrchu amcanion buddsoddi cenedlaethol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy) ac mae'n gyson â phlisïau, blaenoriaethau ac ymrwymiadau lleol, yn ogystal ag amcanion rhaglen penodol a ddiffinnir gan Llywodraeth Cymru (LlC).

Y nodau ac amcanion allweddol yw:

  • Darparu amgylchedd dysgu addas a fydd yn caniatáu i'r ysgol dyfu a darparu hyd at 248 o leoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol.
  • Darparu amgylchedd dysgu mwy addas i ddysgwyr ôl-16.
  • Gwella hygyrchedd a darparu amgylchedd dysgu o safon uchel sy'n fwy addas i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan greu amgylchedd ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n hyrwyddo annibyniaeth.
  • Gwella ardaloedd hamdden presennol a gwella mynediad cerbydau a cherddwyr i'r ysgol a Chanolfan Hamdden Pen-lan.
  • Gwella awyru a gwresogi a mwyafu cyfleoedd datgarboneiddio gan gynnwys adeiladu cyfleuster addysgu carbon gweithredol sero-net newydd.

Buddion i'r gymuned

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmnïau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle y bo'n bosib, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.

Cynnydd

Ym mis Rhagfyr 2021, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gynigion buddsoddi a nodwyd yn yr Achos Busnes Amlinellol ac ym mis Chwefror 2024, cymeradwywyd dyrannu cyllid cyfrwng Cymraeg, gan alluogi'r prosiect i ddatblygu i gam dylunio manwl a chyflwyno cais cynllunio. Penodwyd Andrew Scott Ltd i ymgymryd â'r broses ddylunio hon.

Amserlen arwyddol* y prosiect

  • Dylunio cyn adeiladu - Chwefror 2025 i Hydref 2025.
  • Cyflwyno Achos Busnes Llawn i LlC - Tachwedd 2025.
  • Gwaith adeiladu'n dechrau - Gorffennaf 2026.
  • Adeilad newydd yn agor - Mai 2027.
  • Prosiect wedi'i gwblhau - Mawrth 2028.

*yn amodol ar adolygiad

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2025