Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadau derbyn i ysgolion - Cynllun cydlynu trefniadau derbyn ysgolion - Derbyn a Blwyddyn 7 mis Medi 2027

Gweithredir cynllun cydlynu trefniadau derbyn ysgolion ar gyfer y derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2027. Bydd y trefniadau cydlynol yn berthnasol i holl ysgolion cymunedol a gynhelir Abertawe ac i'r ysgolion canlynol a gynorthwyir yn wirfoddol:

  • Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
  • Ysgol Christchurch yr Eglwys yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant
  • Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
  • Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff
  • Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff

Gall rhieni / gofalwyr gwblhau cais (y 'ffurflen gais gyffredin') a mynegi dewis ar gyfer hyd at 3 ysgol yn Abertawe o'u dewis, wedi'u rhestru yn ôl eu trefn blaenoriaeth. Bydd y ffurflen ar gael i rieni / gofalwyr drwy system ar-lein (neu fel copi papur ar gais).

Bydd dyddiad cau cenedlaethol a bydd angen i Gyngor Abertawe dderbyn ceisiadau wedi'u cwblhau (ar bapur neu ar-lein) erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd ceisiadau a gyflwynir erbyn y dyddiad hwn yn cael eu hystyried fel ceisiadau a wneir yn ystod y cylch derbyn arferol:

Blwyddyn 7 - 31 Hydref 2026
Derbyn - 16 Ebrill 2027

Ceisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y dyddiad cynnig cyffredin.

Hawl i apelio

Os bydd cais yn cael ei wrthod, hysbysir rheini / gofalwyr yn ysgrifenedig fod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol. Bydd yr ohebiaeth yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2025