Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy o grantiau ar gael i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd

Mae rownd newydd o gyllid ar gael i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe.

Cooking - generic image from Canva

Cooking - generic image from Canva

Mae'r grantiau ar gael i hybu mentrau bwyd cymunedol sy'n cefnogi pobl yn y ddinas sy'n wynebu tlodi bwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Caiff y grantiau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u gweinyddu gan Gyngor Abertawe, ac yn yr haf gwnaeth 48 o sefydliadau gwahanol lwyddo yn eu cais am gymorth, ac maent yn dweud ei fod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer y teuluoedd ac unigolion yr oeddent wedi gallu eu helpu.

Mae £157,126 yn ychwanegol bellach ar gael ar gyfer arian cyfalaf a refeniw.

Mae gan sefydliadau tan ddydd Mercher 14 Chwefror i wneud cais a gallant wneud hynny drwy fynd i: https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthBwydUniongyrchol

 

Close Dewis iaith