Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gael i fynd i'r afael â thlodi bwyd

Mae rownd newydd o gyllid cyfalaf yn unig ar gael i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyda diffyg diogeledd bwyd yn Abertawe.

Cooking - generic image from Canva

Cooking - generic image from Canva

Gellid defnyddio'r grantiau, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u gweinyddu gan Gyngor Abertawe, i brynu eitemau cyfalaf, gan gynnwys: oergelloedd, rhewgelloedd a chyfarpar coginio, gwella storfeydd neu er mwyn prynu offer i gefnogi tyfu a dosbarthu bwyd yn lleol.

Gallai prosiectau gynnwys, er enghraifft: archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau amser cinio, dosbarthiadau coginio cymunedol, banciau bwyd a mentrau tyfu cymdeithasol.

Mae gan sefydliadau tan ddydd Mercher 8 Gorffennaf i wneud cais a gallant wneud hynny drwy fynd i: www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthBwydUniongyrchol

Oherwydd y lefelau uchel o ddiddordeb a ddisgwylir, argymhellir bod ceisiadau'n cael eu cyfyngu i hyd at £1,850.

Mae croeso i unrhyw grŵp sy'n dymuno trafod cais cyn ei gyflwyno, gysylltu â'r Tîm Datblygu Trechu Tlodi drwy e-bostio:tacklingpoverty@abertawe.gov.uk