Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal chwarae boblogaidd yn cael ei hailwampio

Mae pobl ifanc mewn cymuned yn Nhreforys yn dathlu agoriad swyddogol eu hardal chwarae leol boblogaidd ar ei newydd wedd yn Nixon Terrace.

Mae'r ardal chwarae ger siop leol DFS yn hafan i deuluoedd lleol sy'n chwilio am le diogel i'w plant chwarae a dal lan gyda ffrindiau.

Mae'r ardal chwarae yn un o fwy na 50 o gymdogaethau ar draws y ddinas sydd wedi elwa o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae gwerth £7m Cyngor Abertawe ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ddoe gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.

Mae'r ardal chwarae yn cynnwys siglenni, rowndabowt ac uned aml-chwarae i'r plant bach eu mwynhau.

I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad mwyaf erioed y Cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

Close Dewis iaith