Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Dylan ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.

Dylan Thomas Centre

Dylan Thomas Centre

Mae'r arddangosfa barhaol am Dylan Thomas a'r cyfleuster dysgu yn y ganolfan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr amgueddfa fach orau yng ngwobrau Kids in Museums 2023.

Mae'r gwobrau'n dathlu profiadau rhagorol i blant a theuluoedd.

Mae'r cyngor yn cynnal arddangosfa Dwlu ar y Geiriau'r ganolfan a'r rhaglen ymgysylltu, sy'n cynnig cyflwyniad y gall ymwelwyr ymgolli ynddo i'r bardd Thomas o Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, y Cyng. Elliot King, "Roedd Thomas yn ysgrifennydd chwareus ac rydym am rannu ei frwdfrydedd â'n hymwelwyr ifanc a'u hysbrydoli i ddwlu ar eiriau."

Trwy ei harddangosfeydd rhyngweithiol, ei deunyddiau clyweledol, ei lwybr i blant a'i harteffactau gwreiddiol, gall ymwelwyr â'r ganolfan o bob oedran archwilio etifeddiaeth gyfoethog ac amrywiol y bardd, yn ogystal â'i gysylltiadau â'r byd ehangach.

Roedd y teuluoedd a enwebodd y ganolfan am y wobr yn llawn canmoliaeth amdani. Dyma rai o'r sylwadau:

  • "Dyma un o'r lleoedd mwyaf addas i blant rydyn ni wedi ymweld ag ef."
  • "Rydym wedi'n synnu ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael! Mae'r staff mor hyfryd."

Trefnir y gwobrau gan elusen Kids in Museums. Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref.

Llun Canolfan Dylan Thomas.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mehefin 2023