Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa Dylan Thomas yn Abertawe yn y ras am wobr genedlaethol

Mae Arddangosfa Dylan Thomas yn Abertawe wedi sicrhau lle ar restr fer categori'r Amgueddfa Fach Orau yng Ngwobrau Kids in Museums 2024.

Dylan Thomas Centre half term event

Dylan Thomas Centre half term event

Mae'r anrhydedd hwn yn dangos ymrwymiad tîm yr arddangosfa i greu profiadau sy'n fuddiol ac yn berthnasol i blant a theuluoedd fel ei gilydd.

Dan reolaeth Cyngor Abertawe, mae arddangosfa a rhaglen ymgysylltu 'Dwlu ar y Geiriau' yng Nghanolfan Dylan Thomas yn cynnig cyflwyniad i fyd Dylan Thomas, un o'r cymeriadau llenyddol enwocaf yn y DU ac un o hoff feibion Abertawe.

Mynegodd Tracey McNulty, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, lawenydd y cyngor wrth gael ei enwebu, gan amlygu ei fod yn adlewyrchu'r ymrwymiad i feithrin amgylchedd bywiog ac addysgol i archwilio bywyd a gwaith Dylan Thomas.

"Mae etifeddiaeth Dylan Thomas fel llenor a oedd yn dwlu ar ieithwedd hynod a'i phŵer i ddwyn delweddau bywiog i gof yn ffynhonnell ysbrydoliaeth rydyn ni am ei throsglwyddo i'r genhedlaeth iau.

"Mae'r cyngor hefyd yn ddiolchgar i Kids in Museums a'r teuluoedd sydd wedi enwebu Canolfan Dylan Thomas am gydnabod ymdrechion ein tîm."

Mae arddangosion rhyngweithiol y ganolfan, ei helfennau amlgyfrwng a'i llwybr ar gyfer plant, ynghyd â'r arteffactau go iawn, yn archwilio etifeddiaeth amlweddog Dylan Thomas, ei gysylltiadau ag Abertawe a'i ddylanwad byd-eang, a hynny mewn modd cynhwysfawr. Ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau, bydd yr arddangosfa'n brofiad dadlennol i ymwelwyr o bob oedran.

Roedd aelodau'r panel yn Kids in Museums a luniodd y rhestr fer yn teimlo bod gwaith tîm ymroddedig yr arddangosfa'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan deuluoedd lleol. Maent yn ystyried bod gweithgareddau'r ganolfan yn gynhwysol a'u bod wedi'u cynllunio mewn modd ystyriol, a bod partneriaethau lleol y tîm wedi arwain at ymateb cryf wrth gefnogi teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Roedd y teuluoedd a enwebodd y ganolfan am y wobr yn llawn canmoliaeth. Mae'r sylwadau diweddar gan ymwelwyr yn cynnwys:

"Amgueddfa Dylan Thomas yw'r un orau. Mae'r staff yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn garedig. Mae'r amgueddfa'n addas iawn i deuluoedd, mae'r ardal grefftau'n wych ac mae'n cynnwys popeth am Dylan Thomas. Rydyn ni'n dwlu ar ddod yma." Liliwen, sy'n 10 oed.

"Wedi mwynhau'r gweithgareddau. Staff hyfryd a chyfeillgar. Bore braf gyda'r wyrion. Roeddwn i'n hoffi'r llwybrau losin ac anifeiliaid. Lleoliad croesawgar iawn." William, sy'n 5 oed, a'i dad-cu a'i fam-gu.

Trefnir y gwobrau gan yr elusen Kids in Museums. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ym mis Hydref.

 

Close Dewis iaith