Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rôl Rheolwr y Farchnad yw'r swydd ddelfrydol i Darren

Dywed dyn sydd newydd ei benodi i reoli Marchnad Abertawe mai dyma yw ei swydd ddelfrydol.

Darren Cox

Darren Cox

Mae Darren Cox a fagwyd yn Abertawe'n awyddus i wneud y lleoliad eiconig mor groesawgar a chyffrous â phosib i fasnachwyr, cymdogion a chwsmeriaid.

Daeth yn oruchwyliwr y farchnad yn dilyn gyrfa 27 o flynyddoedd yn y sector preifat.

Mae bellach yn rheoli'r farchnad, a oedd yn denu mwy na 4 miliwn o siopwyr y flwyddyn, cyn y pandemig.

Cyngor Abertawe sy'n rheoli'r farchnad. Mae'n gartref parhaol i fwy na 100 o fusnesau ac mae'n cynnal masnachwyr achlysurol yn ogystal â digwyddiadau rheolaidd.

Meddai Darren, Mae'r farchnad mor agos at fy nghalon, rwyf wrth fy modd gyda'r rôl hon - mae fy mreuddwyd wedi'i gwireddu.

"Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i sector manwerthu'r DU dros y blynyddoedd diwethaf ond rwy'n hyderus y gall y farchnad helpu masnachwyr - a'r ddinas - i ddod yn ôl yn gryfach wrth i ni adfer o'r pandemig.

"Mae Marchnad Abertawe'n cynnig rhywbeth i siopwyr nad yw ar gael ar-lein, sef profiad siopa personol - ac rwyf am sicrhau bod pawb sy'n ymweld â'r farchnad yn teimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt yno.

"Mae gennym berthnasoedd cryf â'n cymdogion yn y Cwadrant a'r arena newydd a byddwn yn helpu Abertawe wrth iddi barhau i ddatblygu mewn ffordd gadarnhaol; mae'r cynnydd a wnaed o ran gwaith adfywio drwy gydol y pandemig wedi bod yn wych."

Meddai aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Hoffwn groesawu Darren i'r rôl bwysig hon - mae e'n frwd dros Abertawe, canol y ddinas a'r farchnad."

Cafodd Darren ei fagu yn Sgeti, ei addysgu yn Ysgol yr Olchfa ac mae ganddo atgofion byw o fynd o gwmpas y farchnad gyda'i rieni pan oedd yn fachgen ifanc.

Yn fuan ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Birmingham dechreuodd ei swydd gyntaf fel cynrychiolydd gwyliau yn Tenerife. Bu'n gweithio ar yr ynys am 25 mlynedd mewn rolau megis rheolaeth fasnachol a rheoli gweithrediadau.

Cyn ymuno â'r farchnad bu'n rheolwr gweithrediadau gyda grŵp La Braseria yn Abertawe am ddwy flynedd.

Mae Darren yn byw yn Abertawe gyda'i bartner Natasha a'i merch. Mae ganddo hefyd fab a merch sy'n oedolion.

Yn y farchnad, mae'n llenwi lle John Burnes, a ymddeolodd o'i rôl fel goruchwyliwr yn yr haf.

Y llynedd,cafodd y lleoliad ei enwi'n farchnad dan do fawr orau Prydain gan Gymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain.

Marchnad ar-lein: www.swanseaindoormarket.co.uk

Llun: Darren Cox, goruchwyliwr newydd Marchnad Abertawe.

 

Close Dewis iaith