Toglo gwelededd dewislen symudol

Syniadau'n cael eu rhannu wrth i'r cyngor ddathlu Diwrnod Pobl Hŷn

Mae preswylwyr a grwpiau cymunedol wedi bod yn rhannu eu syniadau am leihau unigedd cymdeithasol a heneiddio'n dda fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.

Mark Child Older Persons Day

Mark Child Older Persons Day

Roedd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Child, wedi ymuno â nhw ar gyfer digwyddiad cymdeithasol yn y marina heddiw.

Meddai'r Cynghorydd Child, "Dros yr ychydig fisoedd i ddod, bydd y cyngor, wrth weithio gyda'n partneriaid, yn ceisio nodi mentrau newydd i leihau unigedd cymdeithasol mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID, annog heneiddio gweithredol a hefyd fynd i'r afael â materion eraill sy'n bwysig i bobl hŷn fel eithrio digidol.

"Roeddwn i'n wirioneddol falch fod cynifer o bobl yn gallu ymuno â mi ac rwy'n gobeithio y gwnaethon nhw ei fwynhau cymaint ag y gwnes i a'u bod yn teimlo'i bod yn werth chweil.

"Rydym newydd benodi Rhys Thomas fel ein Swyddog Partneriaethau a Chyfranogaeth Pobl Hŷn ac roedd ef hefyd wedi ymuno â ni.

"Bydd Rhys yn gweithio gydag aelodau'r gymuned a grwpiau i glywed llais pobl 50 oed ac yn hŷn ac i weithio gyda nhw i wella cyfleoedd i fyw a heneiddio'n dda yn Abertawe."

Gall pobl 50+ sy'n byw yn Abertawe yr hoffent ymuno â rhwydwaith gwybodaeth y cyngor a chlywed am ddigwyddiadau cynnwys yn y dyfodol wneud hynny drwy e-bostio rhys.thomas@abertawe.gov.ukneu ffonio Rhys ar 07977346177.