Mae'n swyddogol - mae Abertawe'n ddinas sy'n croesawu diffibrilwyr
Abertawe yw'r ddinas gyntaf yn y DU i groesawu diffibrilwyr ac mae ganddi bellach rwydwaith o bron 650 o ddyfeisiau arbed bywydau ar draws ei chymunedau.
Partnerodd yr elusen Heartbeat Trust UK â Chyngor Abertawe gyda'r nod o gyflawni'r anrhydedd ac arbed bywydau.
Mae'r Cyngor wedi cyfrannu mwy na £170,000 ac mae llawer o sefydliadau ac unigolion eraill hefyd wedi cyfrannu drwy brynu'r cyfarpar ar gyfer eu cymunedau.
Mae'r rhain yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, clybiau chwaraeon, elusennau, sefydliadau ar lawr gwlad, cynghorwyr lleol, teuluoedd ac unigolion.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o lawer o'r rhain i ddathliad ym Mhafiliwn Patti yr wythnos hon lle cyhoeddodd Heartbeat Trust UK fod Abertawe nawr yn swyddogol yn ddinas sy'n croesawu diffibrilwyr, diolch i'r holl waith caled a wnaed.