Toglo gwelededd dewislen symudol

Deisebau

Dogfennau yw deisebau (boed yn electronig neu'n ffisegol) sy'n cynnwys manylion materion sy'n bwysig i gymunedau a Dinas a Sir Abertawe yn ei chyfanrwydd, wedi'u llofnodi gan etholwyr lleol sy'n cefnogi'r cam gweithredu arfaethedig.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi Cynllun Deisebau (yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Cyn cyflwyno deiseb, dylai preswylwyr:


eDdeisebau

Mae e-ddeiseb yn ddeiseb sy'n casglu llofnodion ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i ddeisebau a gwybodaeth ategol fod ar gael i gynulleidfa lawer ehangach na deiseb bapur, draddodiadol.

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn Abertawe gyflwyno neu lofnodi e-Ddeiseb. Does dim cyfyngiadau oedran (gall plant hefyd gyflwyno a llofnodi deisebau).

Mae e-Ddeisebau yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Abertawe i wrando a gweithredu ar farn y cyhoedd.

Cefnogi e-Ddeiseb

I gefnogi e-Ddeiseb sydd eisoes yn bodoli, dewiswch e-Ddeiseb ac ychwanegwch eich enw, eich cyfeiriad a'ch cyfeiriad e-bost.

I gael rhagor o wybodaeth am y mater, gweler yr wybodaeth ategol, a ddarparwyd gan y prif ddeisebwr, sy'n atodedig i'r e-Ddeiseb.

Cyflwyno e-Ddeiseb

Gall e-Ddeiseb ymwneud ag unrhyw fater y mae gan y cyngor bwerau neu ddyletswyddau yn ei gylch neu y mae gan y cyngor gyfrifoldebau cyflawni a rennir yn ei gylch drwy drefniant partneriaeth.

Darllenwch yr Arweiniad i e-Ddeisebau  ddarganfod sut i gyflwyno e-Ddeiseb a sut bydd y cyngor yn ymdrin â'ch e-Ddeiseb.


Deiseb Bapur

Efallai yr hoffech chi hefyd gychwyn deiseb bapur. Mae hyn yn gweithio yn union yr un ffordd ag e-Ddeiseb ac eithrio bod yn rhaid i chi roi'r ddeiseb i'r cyngor neu ei chyflwyno i gynghorydd. Gall hyn weithio'n dda ar gyfer casglu llofnodion yn bersonol. Gallwch ddefnyddio ein templed deiseb y gellir ei argraffu ar gyfer eich deiseb bapur.


Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno naill ai e-Ddeiseb neu Ddeiseb Bapur, edrychwch ar y Cynllun Deisebau.

Ymwadiad

Ni fydd unrhyw atebolrwydd ar Ddinas a Sir Abertawe am y deisebau ar y gwedudalennau hyn. Nid yw'r farn a fynegir yn y deisebau o anghenraid yn adlewyrchu barn y darparwyr.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am e-Ddeisebu neu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, e-bostiwch y Gwasanaethau Democrataidd yn petitions@swansea.gov.uk.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Tachwedd 2023