Trwyddedu dros nos, diwrnod Beaujolais, y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2024-2025
Os ydych chi'n bwriadu cynnal digwyddiad ar gyfer Nos, diwrnod Beaujolais neu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn eich mangre, efallai y bydd angen Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro arnoch (TEN).
Bydd hyn yn berthnasol os nad oes trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb gennych, neu os nad yw'ch trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb yn caniatáu'r gweithgaredd trwyddedadwy rydych yn ei gynllunio. Mae gweithgareddau trwyddedadwy'n cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol, lluniaeth yn hwyr y nos (gwerthu bwyd twym a diod rhwng 23:00 a 05:00 - nid yw hyn yn berthnasol i fangreoedd clwb), adloniant a reoleiddir, sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth sydd wedi'i recordio, dramâu, ffilmiau, chwaraeon dan do, paffio a reslo. Os nad ydych yn siŵr a oes angen TEN arnoch ar gyfer eich digwyddiad, e-bostiwch ni yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.
Mae TEN yn caniatáu i ddigwyddiadau bara hyd at 7 niwrnod (168 o oriau) ac ni chaniateir i fwy na 499 o bobl fod yn bresennol. Mae'n rhaid i drefnydd y digwyddiad gyflwyno'r hysbysiad o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad. Gellir cyflwyno TEN hwyr, ond ni ddylai hyn fod yn gynt na 9 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad nac yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad a rhaid nodi mai TEN hwyr ydyw. Sylwer, nid yw'r diwrnodau gwaith yn cynnwys y diwrnod cyflwyno, hynny yw, y diwrnod y mae'r awdurdod hwn yn ei dderbyn, a diwrnod y digwyddiad ei hun. Nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul na gwyliau banc, sef Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan yn yr achos hwn.
Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro
Achlysur/dyddiad | Dyddiad cau ar gyfer TEN safonol | Dyddiad cau ar gyfer TEN hwyr |
---|---|---|
Diwrnod Beaujolais 21 Tachwedd 2024 | 6 Tachwedd 2024 | 13 Tachwedd 2024 |
7 Rhagfyr 2024 | 24 Tachwedd 2024 | 1 Rhagfyr 2024 |
8 Rhagfyr 2024 | 24 Tachwedd 2024 | 1 Rhagfyr 2024 |
14 Rhagfyr 2024 | 1 Rhagfyr 2024 | 8 Rhagfyr 2024 |
15 Rhagfyr 2024 | 1 Rhagfyr 2024 | 8 Rhagfyr 2024 |
21 Rhagfyr 2024 | 8 Rhagfyr 2024 | 15 Rhagfyr 2024 |
22 Rhagfyr 2024 | 8 Rhagfyr 2024 | 15 Rhagfyr 2024 |
Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr 2024 | 9 Rhagfyr 2024 | 16 Rhagfyr 2024 |
Dydd Nadolig 25 Rhagfyr 2024 | 10 Rhagfyr 2024 | 17 Rhagfyr 2024 |
Gŵyl San Steffan 26 Rhagfyr 2024 | 10 Rhagfyr 2024 | 17 Rhagfyr 2024 |
27 Rhagfyr 2024 | 10 Rhagfyr 2024 | 17 Rhagfyr 2024 |
28 Rhagfyr 2024 | 11 Rhagfyr 2024 | 18 Rhagfyr 2024 |
29 Rhagfyr 2024 | 11 Rhagfyr 2024 | 18 Rhagfyr 2024 |
30 Rhagfyr 2024 | 11 Rhagfyr 2024 | 18 Rhagfyr 2024 |
Nos Galan 2024 31 Rhagfyr 2024 | 12 Rhagfyr 2024 | 19 Rhagfyr 2024 |
Dydd Calan 1 Ionawr 2025 | 15 Rhagfyr 2024 | 22 Rhagfyr 2024 |