Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)
Mae'n rhaid gofalu am bobl sydd â diffyg galluedd meddyliol mewn modd sy'n sicrhau eu bod yn ddiogel, ond cyn belled â bod modd, dylent hefyd fod yn rhydd i wneud y pethau y maent am eu gwneud.
Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) yn rhan o Mental Capacity Act 2005 (Yn agor ffenestr newydd). Maent yn berthnasol i oedolion sydd yn yr ysbyty, sy'n byw mewn cartref gofal neu sy'n byw â chymorth ac sydd â diffyg galluedd meddyliol i gydsynio i driniaeth neu ofal. Mae'n rhaid gofalu am bobl mewn modd sy'n sicrhau eu bod yn ddiogel, ond cyn belled â bod modd, dylent hefyd fod yn rhydd i wneud y pethau y maent am eu gwneud.
Os caiff rhywun ei atal rhag gwneud yr hyn maent am ei wneud drwy'r amser, gelwir hyn yn golli rhyddid. Weithiau mae'n bosib y bydd pobl sy'n derbyn triniaeth neu ofal yn colli eu rhyddid er mwyn eu cadw'n ddiogel. Byddai'n rhaid i bobl sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran y person hwnnw fod yn sicr bod y penderfyniadau hynny er lles gorau'r person ac nad oes unrhyw ffordd arall o ofalu amdano'n ddiogel.
Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn bodoli er mwyn sicrhau os yw rhywun yn colli ei ryddid, y gwneir hynny mewn modd cyfreithiol, cymesur ac sy'n diogelu'r person. Mae'n rhaid i'r ysbyty neu'r cartref gofal wneud cais am Awdurdodiad DoLS a bydd yn rhaid i o leiaf dau berson asesu'r person a gwirio y bodlonir yr holl ofynion perthnasol cyn y gellir cyflwyno Awdurdodiad DoLS.
Côd Ymarfer Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
Llyfr rheolau sy'n helpu i esbonio sut gall rhywun golli ei ryddid, a sut gellir osgoi hynny, yw'r Côd Ymarfer Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS). Mae hefyd yn esbonio'r mesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau bod colli rhyddid yn gyfreithlon.
Mae taflen ffeithiau ar gael ar wefan y Age Cymru (Yn agor ffenestr newydd).