Gwahoddiad cyhoeddus i glywed y newyddion diweddaraf am y Mwmbwls mewn cyfarfod ar ôl y gwaith
Mae pobl o fyd busnes ymysg y rhai hynny sy'n cael eu gwahodd i sesiwn galw heibio gyda'r hwyr i glywed y newyddion diweddaraf am brosiect amddiffynfeydd môr y Mwmbwls.
Cynhelir sesiwn galw heibio fisol ddiweddaraf y cynllun yn hwyrach yn y dydd nag arfer i ddarparu ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio oriau swyddfa fel arfer.
Bydd croeso i bawb ddod i'r sesiwn o 6pm tan 8pm nos Iau, 25 Gorffennaf yn Neuadd Victoria, Dunns Lane.
Nod y prosiect amddiffynfeydd môr gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Abertawe a'i ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, yw diogelu cymuned glan môr y Mwmbwls ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Caiff ei gwblhau gan y prif gontractwr, Knights Brown, y flwyddyn nesaf.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Andrew Stevens, "Rydym yn gwerthfawrogi cyfranogaeth busnesau, teuluoedd ac unigolion yn ein sesiynau galw heibio rheolaidd - mae eu syniadau a'u hadborth yn bwysig i ni wrth i'r cynllun barhau i wneud cynnydd sylweddol.
"Rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a mynegi barn, felly, ar yr achlysur hwn, byddai'n wych clywed yn uniongyrchol gan y rhai hynny na allant ddod fel arfer i'n sesiynau galw heibio yn ystod y dydd.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd am fynegi syniadau neu godi pwyntiau am y cynllun i alw heibio.
"Gellir tawelu meddyliau pobl y bydd y gwaith cysylltiedig i'r promenâd yn gwella'r Mwmbwls fel cyrchfan i ymwelwyr a lle i fyw a chynnal busnes."
Mae'r cyngor yn parhau i hyrwyddo'r cynllun - a'r ffaith y bydd y Mwmbwls a'i fusnesau yn aros ar agor - drwy ei ymgyrch #GwellarMwmbwls ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n parhau i drafod materion eraill sy'n ymwneud â'r Mwmbwls ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Wales and West Utilities, sydd wedi bod yn gwella'r hen brif gyflenwad nwy ar hyd Mumbles Road.
Mae newidiadau o ran parcio ar hyd glan y môr wedi cynnwys creu mannau newydd wrth ymyl y ffordd yn Southend. Mae cannoedd o fannau parcio eraill yn dal i fod ar gael yn ardal glan môr y Mwmbwls.
Mae tîm twristiaeth y cyngor, mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau lleol, yn parhau i hyrwyddo Bae Abertawe, gan gynnwys y Mwmbwls, fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn ac yn parhau i gynnal Trên Bach Bae Abertawe yn ystod y misoedd mwyaf cynnes.
Llun: Gwaith yn mynd rhagddo ar bromenâd y Mwmbwls, yn ardal Oyster Wharf.