Disgyblion yn gweithio i agor siop mewn cynhwysydd cludo
Mae disgyblion yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn Abertawe'n gyfrifol am siop gymunedol newydd sydd wedi agor mewn cynhwysydd cludo ar dir yr ysgol.
![Dylan Thomas School Shipping Container shop](/image/15341/Dylan-Thomas-School-Shipping-Container-shop/standard.jpg?m=1701876632363)
![Dylan Thomas School Shipping Container shop](/image/15341/Dylan-Thomas-School-Shipping-Container-shop/gi-responsive__100.jpg?m=1701876632363)
Mae'r ysgol wedi ymuno â'r fenter Big Bocs Bwyd - rhwydwaith o siopau "talwch fel y mynnwch" sy'n dechrau agor mewn ysgolion ar draws Cymru.
Y syniad yw sicrhau bod bwyd iachus ar gael i deuluoedd ar gyllideb er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd.
Mae hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ac yn cynyddu cyfranogaeth rhieni a gofalwyr yn yr ysgol mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Mae gan y siop hefyd ardal gaffi awyr agored ac mae'r cyfleuster cyfnewid gwisg unffurf hefyd wedi symud yno fel y gall rhieni brynu gwisg ysgol sydd wedi'i hailgylchu.