Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgu yng Nghastell Ystumllwynarth

Gwybodaeth am ymweliadau ysgolion a grwpiau.

Learning at Oystermouth Castle

Learning at Oystermouth Castle
Mae'r castell Normanaidd mawreddog hwn yn darparu pecyn o gyfleoedd cwricwlwm sy'n addas ar gyfer y cyfnod sylfaen ac i fyny.

Ymysg y pynciau mae:

  • Straeon tylwyth teg, dreigiau ac adrodd straeon, gan ddefnyddio chwarae a symudiadau creadigol - yn ddelfrydol ar gyfer cyfnod allweddol 1 a 2.
  • Cestyll Normanaidd: ffurf a swyddogaeth, gwarchae ac amddiffyniad.
  • Bywyd yng Nghymru'r Canol Oesoedd.
  • Arglwyddi Gŵyr a Thywysogion Cymru.
  • Yr Amgylchedd Naturiol - defnyddio'r parcdir a'r coetiroedd o'i gwmpas ar gyfer sesiynau cyfeiriadu, ymchwilio ac ymholi.

 

Byddai ymweliad â Chastell Ystumllwynarth yn cynnwys:

  • Ymweliad ymlaen llaw am ddim ar gais i athrawon weld y cyfleusterau a thrafod a chynllunio eich ymweliad a gaiff ei deilwra i'ch anghenion.
  • Taith dywys bersonol (45 munud).

Ar hyn o bryd mae teithiau ysgol i'r castell yn cynnwys sesiwn hanner diwrnod (hyd at 2 awr, 10am-12pm a 12.30pm-2.30pm) yn dibynnu ar eich anghenion. Croesewir archebion yn ystod y tymor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Ar hyn o bryd gallwn gynnwys hyd at 35 o ddisgyblion fesul sesiwn yn ogystal ag athrawon a rhieni sy'n helpu.

 

Dylid cadw lle ar gyfer eich ysgol o leiaf 10 niwrnod cyn yr ymweliad. Mae cyfleoedd hefyd i wneud hyn yn brofiad diwrnod llawn drwy gyfuno'r ymweliad â thaith i Amgueddfa Abertawe yn y bore, a phrynhawn yn y castell. Mae llawer o ffotograffau, gwrthrychau ac arteffactau i ymgyfarwyddo â hwy yn yr arddangosfeydd a'r storfeydd yn yr amgueddfa cyn rhoi'r rhain yn eu cyd-destun yn ystod eich prynhawn yn y castell.

Ar hyn o bryd rydym yn codi tâl o £4 fesul disgybl.

I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â Cydlynydd Datblygiad Castell Ystumllwynarth

Archebion grŵp

Rydym hefyd yn derbyn archebion grŵp a grwpiau ar goetsis yn ôl y trefniadau canlynol:

  • Grwpiau dirybudd (hyd at 15 o bobl) - codir y pris mynediad arferol ar bob unigolyn (£6). Cynigir teithiau tywys am dâl ychwanegol yn ôl disgresiwn y Cyfeillion (£7.50 gyda thaith)
  • Grwpiau (dros 15 o bobl) - ffoniwch Gydlynydd Datblygu Castell Ystumllwynarth ar 07557 481467 i drefnu ymweliad ar wahân ymlaen llaw (£4 y pen heb daith dywys neu £5.50 gyda thaith dywys).

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2023