Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet Cyngor Abertawe'n cymeradwyo'r gronfa cymorth a dargedir fwyaf erioed

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo'r pecyn mwyaf erioed o gymorth a dargedir ar gyfer cymunedau'r ddinas sy'n adfer o'r pandemig.

View of Swansea

View of Swansea

Wrth i Gymru symud i Lefel Rhybudd 2, sy'n caniatáu busnesau lletygarwch i agor dan do am y tro cyntaf mewn misoedd, cytunwyd ar becyn cymorth gwerth £20m ar gyfer teuluoedd, busnesau a chymunedau. 

Mae mesurau'n amrywio o grantiau ailwampio ar gyfer blaen siopau ar draws Abertawe, rhewi prisiau prydau ysgol ac atal ffïoedd caeau ar gyfer clybiau a grwpiau chwaraeon cymunedol mewn lleoliadau a weithredir gan y cyngor.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Roedd y cyngor yna i bobl Abertawe drwy gydol y pandemig, a byddwn yna i'n cymunedau wrth i ni adfer ohono.

"Yn ystod y pandemig roeddem yna i bobl Abertawe a byddwn yna iddynt wrth i'n cymunedau adfer.

"Yn ystod yr argyfwng gwnaethom rannu £130m mewn grantiau a rhyddhad ardrethu â busnesau ac mae gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yn derbyn rhagor o gymorth gennym trwy Lywodraeth Cymru'r wythnos hon. Adeiladom ysbyty sy'n hwb hanfodol yn rhaglen frechu GIG Bae Abertawe a fydd erbyn yr wythnos hon wedi rhoi dros 350,000 o frechiadau cyntaf ac ail frechiadau.

"Nawr ein bod yn dechrau adfer o'r pandemig, mae'r cyngor yn ceisio rhoi hwb arall i bob cymuned yn y ddinas. Bydd pob ward yn rhannu pecyn o gefnogaeth oherwydd rydym am sicrhau nad yw'r un gymuned yn cael ei gadael ar ôl."

Mae uchafbwyntiau eraill y pecyn y cytunwyd arno gan y Cabinet yn cynnwys y canlynol:

  • Caiff prisiau prydau ysgol eu rhewi am y flwyddyn ariannol gyfredol
  • Bydd dros 20 o ardaloedd chwarae newydd neu well i blant
  • Cynigion parcio ychwanegol ar gyfer ardaloedd masnachol pellennig
  • Wi-Fi am ddim mewn cymunedau
  • Rhagor o finiau baw cŵn ac adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â thaflu sbwriel, chwyn a biniau gorlawn
  • Rhagor o fuddsoddiad yng ngwasanaethau atgyweirio ffyrdd PATCH poblogaidd y cyngor
  • Adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â draeniau wedi'u blocio a llifogydd yn ystod y gaeaf

Hefyd fel rhan o gynllun adfer £20m y cyngor bydd camau i wella ardaloedd cymunedol masnachol mewn ardaloedd o'r Mwmbwls a Threforys i Glydach a Chilâ. Bydd yn golygu gwyrddlasu cymunedau eto drwy blannu rhagor o goed, dynodi ardaloedd plannu penodol, celfi stryd ychwanegol a chael gwared ar hen gelfi stryd nad oes modd eu trwsio.

Yn ychwanegol at hynny, bydd grantiau ar gael i wella blaenau siopau ar draws y ddinas, o Landeilo Ferwallt i Fôn-y-maen a Gorseinon i Bontarddulais.

Bydd y cyngor hefyd yn ymchwilio i sut y gall weithio gyda chwmnïau bysus i ddarparu gwasanaethau am ddim i deuluoedd a chanddynt blant o oedran ysgol yn ystod gwyliau'r haf. Bydd teithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth am gost ostyngol dros y chwe mis nesaf a bydd cynigion parcio rhatach i siopwyr yng nghanol y ddinas a'r Mwmbwls.

Mae'r cyngor hefyd wrthi'n sefydlu tîm ymateb yn gyflym i sbwriel i ymdrin â'r cynnydd mewn gollwng sbwriel a biniau gorlawn. Eir i'r afael hefyd â sbwriel sy'n creu llanast mewn gwrychoedd ac ar ochr y ffyrdd.

Bydd masnachwyr ym Marchnad Abertawe'n cael rhagor o gymorth rhent ar ben y £1.3m y maent eisoes wedi'i dderbyn mewn cymorth rhent i ddiogelu eu dyfodol. Mae hynny'n ychwanegol at fuddsoddiad y cyngor mewn toiledau newydd ac ardal gyfarfod newydd yn y lleoliad arobryn.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Diolch i waith anhygoel y GIG wrth gyflwyno'r rhaglen frechu mae gobaith go iawn ar gyfer y dyfodol. Mae Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 2 ac mae hynny'n golygu bod normalrwydd yn dechrau dychwelyd.

"Mae'n rhaid i ni i gyd gofio bod y feirws o gwmpas o hyd ac mae'n rhaid i ni barhau i ddilyn y rheolau sy'n dal i fod yn berthnasol. Ond nawr yw'r amser i ddechrau'n hadferiad ac mae'r cyngor am helpu'n cymunedau i arwain y ffordd.

Meddai, "Ni ddylai unrhyw un gymuned deimlo ei bod yn cael ei gadael ar ôl. Ym Mhontarddulais, er enghraifft, bydd siopau'n cael cynnig grantiau i wella'u tu blaenau a chaiff yr ardal chwarae i blant ei gwella. Yng Ngorseinon, byddwn yn ychwanegu rhagor o wyrddni at y Stryd Fawr drwy blannu planhigion newydd.

"Yn Llandeilo Ferwallt, bydd siopau'n cael y cyfle i fanteisio ar grantiau i wella'u tu blaenau a gwneir gwelliannau i'r trac beiciau. Yn ardal Bôn-y-maen rydym yn ystyried mesurau tawelu traffig a gwelliannau ffyrdd eraill.

"Bydd siopau yn ardaloedd Sgeti, Mynydd-bach, Pen-clawdd a Dynfant yn ogystal â nifer o leoliadau eraill o gwmpas y ddinas hefyd yn cael y cyfle i fanteisio ar grantiau gwella blaenau siopau."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys heriau a newidiadau digynsail. Mae wedi bod yn anodd i lawer o deuluoedd a chymunedau.

"Mae'r gronfa adfer yn bwriadu chwarae ei rhan mewn dyfodol mwy ffyniannus a hapusach i ni i gyd."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Hydref 2022