Toglo gwelededd dewislen symudol

Mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer Bae Copr ecogyfeillgar

Bydd mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod yn ardal cam un Bae Copr newydd gwerth £135m Abertawe cyn bo hir wrth i ymgyrch i wneud y cynllun mor ecogyfeillgar â phosib barhau i wneud cynnydd.

EV charging point

EV charging point

Mae'r gwaith plannu coed hefyd wedi dechrau ar gyfer y wal werdd a'r parc arfordirol 1.1 erw sy'n rhan o'r datblygiad.

Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys goleuadau LED foltedd isel drwy gydol y safle. Mae hyn yn cynnwys y goleuadau LED y tu allan i ddatblygiad Arena Abertawe a fydd yn cael eu pweru gan gelloedd ffotofoltäig ar do'r atyniad. Mae rheolaeth gyfrifiadurol yn golygu y gellir rhaglennu'r goleuadau i gyd-fynd â goleuadau LED eraill yn natblygiad Bae Copr.

Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe'i cynghorir gan y Rheolwyr datblygu RivingtonHark. Bydd y gwaith adeiladu, sy'n cael ei arwain gan Buckingham Group Contracting Ltd, wedi'i gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda'r arena, i'w gweithredu gan y Ambassador Theatre Group, yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd Bae Copr yn rhoi cyfleusterau o safon fyd-eang i bobl Abertawe fel yr arena newydd syfrdanol, ond mae hefyd yn hanfodol bwysig bod y cynllun mor llesol i'r amgylchedd a chynaliadwy â phosib hefyd.

"Yn ogystal â gosod y mannau gwefru cerbydau trydan cyn bo hir, bydd gan Fae Copr hefyd nifer o gysgodfeydd beiciau i annog dulliau teithio amgen, ynghyd â pharc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd, gan ychwanegu rhagor o wyrddni a bioamrywiaeth i'r ardal.

"Bydd to gwyrdd hefyd yn rhan o'r fflatiau newydd sy'n cael eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun, ac mae gwyrddni newydd eisoes wedi'i blannu ar hyd Oystermouth Road i wella golwg yr ardal. Cesglir dŵr glaw mewn mannau o ddatblygiad newydd Bae Copr hefyd er mwyn dyfrhau'r planhigion a'r gwyrddni eraill yn y parc arfordirol newydd."

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Mae hyn i gyd yn rhan o gynllun ehangach i leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol er mwyn helpu i wireddu ein nod o ddod yn ddinas di-garbon erbyn 2050. Yn ogystal â chyflwyno llawer mwy o wyrddni a bioamrywiaeth, mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod pob datblygiad newydd mor llesol i'r amgylchedd â phosib, sy'n dangos bod y cyngor a'i bartneriaid yn cymryd eu cyfrifoldebau newid yn yr hinsawdd o ddifri.

"Mae enghreifftiau'n cynnwys waliau byw eraill yn cael eu gosod ar Ffordd y Brenin a gwaith yn cael ei ddechrau'n fuan ar ddatblygiad swyddfa newydd sbon o'r radd flaenaf ar hen safle clwb nos Oceana a fydd yn ddi-garbon unwaith y bydd yn weithredol. Cynllunnir cyflwyno 'adeilad byw' gerllaw hefyd, diolch i Hacer Developments, ac mae consortiwm o'r sector preifat, dan arweiniad DST Innovations, newydd gyhoeddi'r prosiect Eden Las hynod gyffrous gwerth £1.7bn ar gyfer Abertawe a fydd yn cynnwys morlyn llanw."

Mae datblygiad swyddfa 71/72 Ffordd y Brenin a nodwedd arena cynllun Bae Copr yn cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn, sy'n cynnwys naw rhaglen a phrosiect ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe gyfan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022