Mwy nag 80 ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau'r Blynyddoedd Cynnar a Chwarae
Mae mwy nag 80 o enwebiadau wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws y naw categori ar gyfer gwobrau Dathlu'r Blynyddoedd Cynnar a Chwarae Abertawe eleni.
![Childcare and Play Awards 2023](/image/11776/Childcare-and-Play-Awards-2023/standard.jpg?m=1678373830153)
![Childcare and Play Awards 2023](/image/11776/Childcare-and-Play-Awards-2023/gi-responsive__100.jpg?m=1678373830153)
Cynhelir y digwyddiad llawn glits a glamor yn Neuadd Brangwyn nos Wener, 15 Mawrth.
Dyma'r ail flwyddyn i'r digwyddiad, sy'n taflu goleuni ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau yn niwydiant y blynyddoedd cynnar a chwarae, gael ei gynnal.
Dywedodd y beirniaid eu bod wedi eu syfrdanu ag ansawdd y cannoedd o enwebiadau a gawsant.