Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathlu arwyr chwarae a gofal plant mewn noson wobrwyo

Daeth mwy na 300 o westeion ynghyd yn Neuadd Brangwyn Abertawe i gydnabod a dathlu gweithlu gofal plant a chwarae medrus iawn y ddinas hon.

Early Years Play Awards 2024

Early Years Play Awards 2024

Hon oedd yr ail flwyddyn yn olynol i Gyngor Abertawe ymuno â JR Events & Catering ar gyfer y noson wobrwyo fawreddog a oedd yn llawn glits a glamor.

Cafodd y gwesteion fwynhau adloniant agoriadol gan driawd Taliesin Strings a sêr The Performance Factory, yn ogystal â pherfformiad gan fand byw Stereo Hearts ar ddiwedd y noson.

Prifysgol Abertawe oedd y noddwr cyffredinol a'r noddwyr ar gyfer y categorïau oedd Signalong, Freedom Leisure, Holistic Steps, Coleg Gŵyr, Hoop Education a Chynnig Gofal Plant Cymru.

Close Dewis iaith