Toglo gwelededd dewislen symudol

Atyniadau'r ddinas i ddod â hwyl i'r teulu dros wyliau'r Pasg

​​​​​​​Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae'n golygu bod nifer o atyniadau Abertawe'n paratoi i agor ar gyfer Pasg llawn hwyl.

Land Train

Land Train

Bydd atyniadau awyr agored a than do poblogaidd y cyngor - gan gynnwys y pedalos a'r golff gwallgof ym Mharc Singleton, y golff gwallgof yng Ngerddi Southend a Thrên Bach Bae Abertawe - yn ailagor ar 31 Mawrth mewn pryd ar gyfer y gwyliau. Bydd Castell Ystumllwynarth yn agor ar 1 Ebrill.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Gyda'r dyddiau hwy a'r tywydd cynhesach, mae ein hatyniadau'n barod am dymor gwych arall.

"P'un a yw'n llwybr diwylliannol, yn llwybr awyr agored neu'n llwybr treftadaeth, dyma'r cyfle i ddod o hyd i'r un perffaith yn Abertawe. Gall unrhyw un roi cynnig ar ein llwybrau!"

Mae gan Abertawe ddewis gwych o atyniadau dan do ac awyr agored sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor ynghyd â'r rhai a gynigir gan y sector preifat.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae gennym ddewis gwych ac amrywiol o leoliadau dan do, gan gynnwys ein llyfrgelloedd, Oriel Gelf Glynn Vivian, Arddangosfa Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a Theatr y Grand."

Mae diwrnodau hwyl y Pasg sydd ar y gweill yng Nghastell Ystumllwynarth yn cynnwys digwyddiad agoriadol Diwrnod Hanes Byw yn y castell ar 1 Ebrill a Llwybr Bwni'r Pasg ar 9 Ebrill.

Mae arddangosfa His Dark Materials Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhedeg tan 23 Ebrill. Mae gan yr oriel hefyd weithgareddau gwyliau'r Pasg fel cyfres o weithdai galw heibio creadigol i'r teulu cyfan.

Mae Canolfan Dylan Thomas yn cynnal Llwybr Hoff Losin Dylan drwy gydol mis Ebrill.

Mae digwyddiadau Amgueddfa Abertawe'n cynnwys gweithdai galw heibio am ddim sy'n cynnig y cyfle i addurno potiau planhigion a dylunio blodau papur.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus y cyngor yn trefnu digwyddiadau cymunedol am ddim ar gyfer y gwyliau. Bydd y sesiynau rhigwm a'r clybiau Lego rheolaidd yn parhau.

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com

Llun: Trên Bach Bae Abertawe.

Close Dewis iaith