Maethu Cymru Abertawe yn galw ar gyflogwyr lleol i gefnogi gofalwyr maeth
Mae cyflogwyr yn Abertawe'n cael eu hannog i ystyried bod yn 'Gyfeillgar i Faethu' i gefnogi eu staff sydd hefyd yn ofalwyr maeth neu'n ystyried maethu.
Yr wythnos hon yw dechrau Pythefnos Gofal Maeth ac un o'r themâu yw mynd i'r afael â'r camsyniad na all pobl barhau i weithio os ydynt yn dod yn ofalwr maeth.
Mae Anthony a Nichola Hopkins, sydd wedi gweithio i Admiral ers dros 20 mlynedd, wedi dod yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Abertawe yn ddiweddar.
Dywedodd Anthony: "Mae ein plant genedigol wedi tyfu i fyny, ond roedden ni dal eisiau plant o gwmpas y tŷ a dyna pam y gwnaethon ni ystyried dod yn ofalwyr maeth.
"Fe ddywedon ni wrth ein rheolwyr llinell yn Admiral, ac maen nhw wedi ein cefnogi ni'n llawn trwy ein cais maethu a'n taith hyfforddi, ac maen nhw'n parhau i'n cefnogi ni fel gofalwyr maeth.
"Mae Admiral wedi bod yn wych ac yn gwbl gefnogol, gan ddarparu'r ddealltwriaeth a'r hyblygrwydd yr oedd ei angen arnom i ymgartrefu'r plant, gan ein galluogi i gael yr ystafelloedd gwely'n barod fel bod y plant yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel yn ein cartref, ac i dreulio amser gyda nhw hefyd.
"Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil i ni, er mai dim ond ers cyfnod byr yr ydyn ni'n ei wneud.
"Pe bawn i'n newid swydd, yna byddai polisi maethu cefnogol neu bolisi gweithio hyblyg yn sicr yn rhywbeth y byddwn i'n edrych amdano mewn cwmni."
Mae Cyngor Abertawe ymhlith y sefydliadau a'r busnesau sydd wedi ennill statws Cyfeillgar i Faethu trwy weithredu polisïau ar gyfer staff sy'n ddarpar ofalwyr maeth neu sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio.
Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, i ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, presenoldeb mewn paneli, i setlo plentyn newydd yn eu cartref ac i ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall.
Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope, y gallai cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad gweithiwr i ddod yn ofalwr maeth.
Dywedodd: "Wrth i'r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i'n cymuned yng Nghymru gamu i fyny.
"Rydyn ni'n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun fydd yn aros gyda nhw am y tymor hir, rydyn ni'n gweld canlyniadau gwell.
"Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â'u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell."
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Gofal, Louise Gibbard: "Roedden ni'n teimlo ei bod hi'n hanfodol gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein gofalwyr maeth sydd hefyd yn gweithio i'r cyngor trwy gynnig rhywfaint o hyblygrwydd a chefnogaeth yn y gweithle, dyna pam rydyn ni'n falch iawn o fod wedi ennill statws Cyfeillgar i Faethu.
"Yr wythnos hon rydyn ni hefyd yn estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu er mwyn gwella'r cymorth yr ydyn ni eisoes yn ei ddarparu i'n gofalwyr maeth."
I gael gwybod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe, ewch i: www.swansea.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch 0300 555 0111.
I ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu, cysylltwch â'r Rhwydwaith Maethu fosteringfriendly@fostering.net i gael gwybod rhagor.