Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrchfan cyflogaeth a byw newydd y ddinas yn datblygu

Mae cyrchfan cyflogaeth, byw ac arloesi newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn dechrau datblygu yng nghanol dinas Abertawe.

Kingsway and living building (August 2023)

Kingsway and living building (August 2023)

Mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar ddatblygiad 71/72 Ffordd y Brenin a'r cynllun 'adeilad byw' gerllaw yn Iard Picton.

Mae Cyngor Abertawe'n datblygu adeilad swyddfa newydd ar safle 71/72 Ffordd y Brenin, sef hen gartref i glybiau nos gan gynnwys Oceana, Time and Envy, Ritzy's a Top Rank.

Bydd yr adeilad gorffenedig yn cynnwys saith llawr - dwy lefel o dan y ddaear a phum lefel uwchben lefel y stryd.

Mae'r gwaith gwydro wedi dechrau cael ei gyflwyno ac mae rheiliau diogelu bellach yn cael eu gosod ar lawr uchaf y datblygiad, a fydd yn cynnwys teras to gwyrdd gyda golygfeydd dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Mae Bouygues UK, prif gontractwr y cyngor ar gyfer y cynllun, yn rhagweld y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau yn gynnar yn 2024.

Unwaith y bydd yr adeilad yn weithredol, bydd y datblygiad yn darparu lle i 600 o weithwyr a bydd yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae galw sylweddol o hyd am swyddfeydd modern, hyblyg o'r math hwn yn Abertawe, er bod y pandemig wedi arwain at gynnydd o ran nifer y bobl sy'n gweithio gartref.

"Mae trafodaethau â nifer o ddarpar denantiaid yn mynd rhagddynt a chyn bo hir bydd ymgyrch farchnata yn dechrau i godi proffil y cyfleuster ymhellach yn y gymuned fusnes. Dyma'r amser arferol sydd ei angen ar gyfer datblygiad o'r natur hwn wrth i'r cynnydd o ran gwaith adeiladu ar y safle ddechrau dod yn fwyfwy gweladwy."

Biophilic building

Bydd y cynllun 'adeilad byw', y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2024, yn cynnwys hen uned Woolworths a thŵr 12 llawr newydd cyfagos.

Unwaith y bydd ar agor, bydd y tŵr yn cynnwys canolfan acwaponeg, lle arddangos, swyddfeydd a lle preswyl. Mae adeileddau dur hefyd yn cael eu gosod yn awr ar do hen adeilad Woolworths er mwyn galluogi cyflwyno mannau byw a gerddi yno.

Bydd y cynllun cyffredinol hefyd yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeau gwyrdd, tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfa bellach, iard dirluniedig, paneli solar ar y to a storfa fatris.

Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Mae llawer o bobl wedi sylwi ar y tŵr sydd bellach yn cael ei adeiladu yng nghanol y ddinas, ger datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin, gyda'r gwaith adeiladu bellach yn parhau ar yr adeiledd hwnnw a gwaith hefyd yn digwydd ar hen adeilad Woolworths.

"Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y cynllun 'adeilad byw' yn wirioneddol arloesol o ran ei arloesedd, ond hefyd oherwydd dyma fydd y datblygiad cyntaf o'i fath yn y DU."

Ariennir yr 'adeilad byw' drwy gymysgedd o gyllid y sector preifat a chyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Pobl a Banc Datblygu Cymru.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2023