Toglo gwelededd dewislen symudol

£500,000 i gefnogi gweithgareddau, bwyd a mannau cynnes y gaeaf hwn

Disgwylir i filoedd o breswylwyr Abertawe o bob oed elwa o weithgareddau, bwyd a mannau cynnes, croesawgar i fynd iddynt y gaeaf hwn, diolch i werth £500,000 o gymorth a ddarperir gan Gyngor Abertawe.

Playday free food

Gall clybiau, grwpiau a sefydliadau eraill wneud cais yn awr am gyfran o'r cyllid i gefnogi pobl a chymunedau'r gaeaf hwn.

Mae'r grant Galluogi Cymunedau newydd yn ceisio adeiladu ar y rhaglenni llwyddiannus sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd pobl yn Abertawe yn y blynyddoedd diweddar.

Yn ystod gwyliau'r haf eleni, ariannodd y cyngor fwy na 40 o grwpiau a sefydliadau i ddarparu prydau, parseli bwyd a thalebau bwyd a ddarparodd tua 65,000 o brydau i bobl ifanc.

Roedd mwy na 20,000 o bobl ifanc, teuluoedd a phreswylwyr hŷn wedi gallu mynd i weithgareddau cymorthdaledig ac am ddim a gynhaliwyd gan fwy na 100 o bartneriaid gwahanol.

A'r gaeaf diwethaf, agorodd dros 80 o elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill eu drysau i gynnig mannau cynnes a chroesawgar i bobl fynd iddynt, diolch i fenter Lleoedd Llesol Abertawe.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'r Grant Galluogi Cymunedau newydd hwn yn dod â thri llinyn ynghyd - cymorth bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, gweithgareddau cymorthdaledig ac am ddim a Lleoedd Llesol Abertawe.

"Mae e' yno i gefnogi clybiau, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn y gwaith maen nhw'n ei wneud a gallant wneud cais am gyllid ar gyfer un elfen neu fwy os yw'n briodol."

Mae ceisiadau'n agor heddiw ac mae gan grwpiau tan ddydd Sul 26 Tachwedd i gyflwyno'u cynigion.

Gallant wneud hyn drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/cronfaGalluogiCymunedau

Close Dewis iaith