Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn cytuno ar hysbysiad o gynnig ar gyfer yr argyfwng ynni cenedlaethol

Bydd Cyngor Abertawe yn annog Llywodraeth y DU i weithredu'n gyflym i amddiffyn aelwydydd rhag cynnydd mewn prisiau ynni.

Household Energy

Household Energy

Mae disgwyl i filiau ynni gynyddu'n fwy nag erioed o'r blaen yn ystod y misoedd nesaf, gan olygu y bydd arian yn dynnach i deuluoedd.

Mae'r cap ar brisiau y mae'n rhaid i gwmnïau ynni gadw ato'n mynd i godi'n sylweddol - felly mae'r cyngor yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau cadarnhaol pendant.

Nod yr hysbysiad o gynnig y cytunodd y cyngor llawn arno heddiw yw mynd i'r afael â'r argyfwng ynni cenedlaethol. Mae'n gofyn i arweinydd y cyngor, Rob Stewart, alw ar y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i:

  • leihau TAW ar gyfer biliau ynni
  • cyflwyno cap prisiau newydd, is ar filiau ynni
  • sicrhau bod mwy o grantiau neu fenthyciadau di-log ar gael i annog perchnogion tai a busnesau i fanteisio ar atebion ynni adnewyddadwy fel solar
  • cyflwyno treth elw ar gwmnïau ynni i ariannu cynllun grant y DU ar gyfer y rheini sydd fwyaf anghenus

Meddai'r Cyng. Stewart,"Rydym am helpu teuluoedd ac aelwydydd drwy eu hamddiffyn rhag cynnydd sylweddol mewn prisiau. Fel cyngor, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu drwy gyfeirio preswylwyr i opsiynau cefnogi a syniadau effeithlonrwydd ynni yn ogystal â gwneud ein tai cyngor yn rhatach i'w gwresogi.

 

"Rydym wedi prosesu 30,000 o daliadau £100 i gartrefi, diolch i gynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dim ond drwy gamau pendant gan Lywodraeth y DU y gellir darparu'r cymorth sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw."

 

Daw'r cynnydd mewn biliau ar ben yr argyfwng costau byw a grëwyd gan effeithiau Brexit a'r pandemig. Mae chwyddiant yn parhau i fod yn uchel ac nid yw enillion yn cyfateb i'r prisiau.

 

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor, "Mae costau byw beunyddiol ychwanegol yn effeithio ar bob aelwyd ledled Abertawe - ac yn fwy felly ar deuluoedd sy'n agos at fyw mewn tlodi. Mae llawer yn ymweld â banciau bwyd ac yn wynebu'r dewis ofnadwy o wresogi eu cartref neu roi bwyd ar y bwrdd. Rydym am helpu."

 

Gall y rheini sydd am leihau eu biliau ynni nawr gael cyngor annibynnol am ddim gan Hwb Ymwybyddiaeth Ynni newydd canol dinas Abertawe. Ymhlith y sefydliadau sy'n ei gefnogi mae Cyngor Abertawe a Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe.

 

Mae'r hwb ar 13 Nelson Street ac mae ar agor ar ddydd Iau o hanner dydd tan 6pm, dydd Gwener (10am-4pm) a dydd Sadwrn (9am-3pm).

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Ionawr 2022