Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gartrefi ynni effeithlon ar gyfer y ddinas

Disgwylir i gynlluniau i adeiladu tai ynni effeithlon blaengar yn Abertawe barhau am flynyddoedd i ddod.

Parc-y-helig houses

Parc-y-helig houses

Mae Cyngor Abertawe'n bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer y dyfodol i adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi fel rhan o'i brosiect Rhagor o Gartrefi arobryn, sydd wedi arwain at adeiladu bron 90 o gartrefi newydd yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae safleoedd wedi cynnwys Colliers Way ym Mlaen-y-maes, Parc yr Helig yng Ngellifedw a Hill View Crescent yn y Clâs.

Mae'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer hyd yn oed rhagor o gartrefi newydd yn cynnwys 22 o gartrefi newydd yn Ravenhill, 13 yn Nhrefansel, 9 yn y Clâs a 160 ym Môn-y-maen.

Mae cynlluniau uchelgeisiol hefyd yn datblygu'n dda ar gyfer ailddatblygu tai cyngor ac adfywio'r ystâd yn Tudno Place a Heol Emrys ym Mhen-lan, a fydd hefyd yn cynnwys nifer o gartrefi newydd fel rhan o'r cynllun.

Disgwylir i dros 100 o dai cyngor ar Croft Street hefyd gael eu hailwampio'n llwyr, gyda'r gwaith yn dechrau yn hwyrach yn y flwyddyn.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Dros y degawd diwethaf rydym wedi clustnodi dros £500 miliwn ar gyfer uwchraddio cartrefi'n tenantiaid ac adeiladu cartrefi newydd i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

"Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwario £250 miliwn yn ychwanegol ar wella cartrefi pobl ac adeiladu rhagor o gartrefi ynni effeithlon i gynyddu'r cyflenwad o dai cyngor."